Yma i helpu

Tîm Cyllid Myfyrwyr

Mae yna nifer o opsiynau ariannu ar gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau. I gael cymorth neu gyngor, cysylltwch â’n tîm Cyllid Myfyrwyr.

Cysylltwch â ni:

Lady using an ATM with blue lighting

Hawlio Budd-daliadau

Os ydych yn hawlio budd-daliadau cyn dechrau cwrs yn y Coleg, cysylltwch â’ch swyddfa budd-daliadau leol i gael gwybodaeth am sut y gallai astudiaethau llawn-amser effeithio ar eich budd-dal. Dim ond gwybodaeth/cyngor cyffredinol ac atgyfeirio y gall y Coleg ei roi gan fod amgylchiadau unigol yn amrywio. Fe’ch cynghorir yn gryf i geisio arweiniad pellach am eich amgylchiadau penodol cyn gwneud cais am gwrs yn y Coleg.

Debyd Uniongyrchol

Os gofynnwyd i chi sefydlu Debyd Uniongyrchol gyda’r Coleg, dilynwch y ddolen hon i nodi eich manylion.

Myfyrwyr Addysg Bellach

Os ydych yn astudio ar gwrs addysg bellach yn y Coleg (er enghraifft Lefel A neu Ddiploma), efallai y byddwch yn gallu cyrchu’r ffynonellau cyllid canlynol:

Mae LCA ar gael i fyfyrwyr llawn-amser 16-18 oed sy’n astudio cwrs addysg bellach. Mae cymhwysedd yn dibynnu ar incwm y cartref fel a ganlyn:

  • Hyd at £20,817 y flwyddyn (os mai chi yw’r unig berson ifanc sy’n astudio yn y cartref) – £40 yr wythnos
  • Hyd at £23,077 y flwyddyn (os oes pobl ifanc eraill yn y cartref sy’n gymwys i gael Budd-dal Plant) – £40 yr wythnos

Telir yn ystod y tymor yn unig ac mae’n seiliedig ar bresenoldeb 100% sy’n cael ei fonitro a’i adrodd yn wythnosol.

Telir LCA yn syth i’ch cyfrif banc bob pythefnos.

Os caiff ei gymeradwyo rhaid i chi gwblhau Cytundeb LCA cyn i chi ddechrau derbyn taliadau.

Mae ffurflenni cais ar gael o’r Hwb neu gellir eu llwytho i lawr o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Mae WGLG ar gael i fyfyrwyr 19 oed neu hŷn sy’n astudio ar gwrs addysg bellach llawn-amser neu ran-amser, ac sydd ag incwm cartref o lai na £18,370.

Mae hwn yn grant prawf modd o hyd at £1,500 ar gyfer y flwyddyn academaidd yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.

Os caiff ei gymeradwyo rhaid i chi gwblhau Cytundeb GLlC cyn i chi ddechrau derbyn taliadau.

Mae ffurflenni cais ar gael o’r Hwb neu gellir eu llwytho i lawr o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Mae gan y Coleg fynediad at gronfa Llywodraeth Cymru ac mae’n ei gweinyddu i’w defnyddio i ddarparu taliadau brys mewn perthynas ag argyfyngau annisgwyl; a darparu cymorth ariannol i’r myfyrwyr cymwys hynny y gallai ystyriaethau ariannol lesteirio eu mynediad i addysg bellach, neu sydd, am ba bynnag reswm, gan gynnwys anabledd corfforol neu anabledd arall, yn wynebu anawsterau ariannol.

Mae hon yn gronfa ar gyfer myfyrwyr 16 oed a throsodd sydd ag incwm cartref o lai na £29,999 i helpu gyda chyfraniad tuag at gostau cwrs hanfodol fel llyfrau, offer, gofal plant a chludiant.

Byddai myfyrwyr sy’n derbyn LCA/WGLG fel arfer yn gymwys yn awtomatig i gael cymorth o’r gronfa. Ar gyfer y rhai nad ydynt yn gymwys ar gyfer LCA neu WGLG, bydd angen tystiolaeth o incwm cartref fel cyfriflenni banc neu Hysbysiad Dyfarniad Credyd Treth wrth wneud cais.

Mae ffurflenni cais ar-lein Cronfa Ariannol Wrth Gefn.

Cyn gwneud cais, darllenwch y nodiadau canllaw amgaeëdig.

Mae benthyciadau di-log o hyd at £2,500 ar gael i unigolion sy’n byw yn Sir Benfro sydd am ennill cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant yn y sectorau Ynni, Peirianneg ac Adeiladu.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dannyfellowstrainingtrust.org.uk

Mae’r gronfa hon ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio ar Brentisiaeth, Twf Swyddi Cymru+ neu Raglen Oedolion a allai gael eu rhwystro gan ystyriaethau ariannol neu wynebu anawsterau ariannol.

Mae’r gronfa ar gael i fyfyrwyr sydd ag incwm cartref o lai na £23,077 i helpu gyda chyfraniad posibl tuag at offer cwrs hanfodol, llyfrau, prydau am ddim, cludiant brys, gofal plant brys a chymorth caledi.

Mae ceisiadau ar-lein ar Cronfa Amddifadedd.

Taliad o hyd at £250 i bobl 16-30 oed i’w helpu i gael gwaith, addysg neu wirfoddoli.

Gall Gwobrau Datblygu helpu i ariannu offer, ffioedd cwrs a hyfforddiant yn ogystal â chostau gofal plant a chludiant.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 0800 842 842 neu ewch i princes-trust.org.uk

Mae’r cynllun ReAct yn cefnogi unigolion sy’n byw yng Nghymru i ennill sgiliau newydd, goresgyn rhwystrau a gwella eu siawns o ddychwelyd i’r gwaith ar ôl cael eu diswyddo.

Os ydych wedi colli eich swydd yn ystod y tri mis diwethaf, efallai y byddwch yn gymwys i gael grant o hyd at £1,500 tuag at becynnau cymorth i’ch helpu i ennill sgiliau newydd, ailhyfforddi neu newid gyrfa. Efallai y byddwch hefyd yn cael cymorth gyda chostau teithio a gofal plant tra byddwch yn dilyn cwrs.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gyrfa Cymru lleol.

Nod y gronfa yw hybu addysg plant a phobl ifanc dan 25 oed sy’n byw ym Mhlwyf Rudbaxton, Sir Benfro.

Gall unigolion wneud cais am grantiau hyd at £1,000 y flwyddyn, y gellir eu defnyddio tuag at ddeunyddiau, offer a gweithgareddau/teithiau.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Mae grantiau o hyd at £1,000 ar gael i fyfyrwyr sy’n dilyn cwrs hyfforddiant galwedigaethol achrededig hyd at Lefel 3.

Mae’r grantiau ar gael i unigolion sy’n wynebu caledi sy’n eu hatal rhag mynd i gyflogaeth neu addysg ac sy’n methu â sicrhau cyllid trwy ddulliau eraill.

Bydd ymgeiswyr ond yn cael eu hystyried os nad ydynt eisoes yn gymwys i weithio ac yn gallu dangos angen cymhellol.

Am ragor o wybodaeth ewch i thomaswalltrust.org.uk

Os ydych rhwng 16-18 oed ac wedi cofrestru ar raglen Hyfforddeiaeth gallech fod yn gymwys i dderbyn bwrsariaeth wythnosol. Mae taliad yn amodol ar bresenoldeb.

Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn darparu cymorth i unigolion cyflogedig 19 oed a throsodd sy’n ennill llai na £29,534 y flwyddyn, yn ogystal â’r rhai sydd ar ffyrlo neu y mae eu swyddi mewn perygl, i ennill y sgiliau cywir i newid gyrfa neu symud ymlaen mewn cyflogaeth.

Mae PLAs yn darparu cyrsiau a chymwysterau hyblyg, a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein tudalen Cyfrif Dysgu Personol.

Myfyrwyr Addysg Uwch

Mae’r ffynonellau cyllid canlynol ar gael os ydych yn astudio ar gwrs addysg uwch yn y Coleg (enghraifft Gradd, HND, HNC).

Mae myfyrwyr addysg uwch llawn-amser yn gymwys i wneud cais am y cymorth canlynol:

  • Cymorth Ffioedd Dysgu – mae Benthyciad Ffioedd Dysgu o hyd at £9,250 ar gael i ddysgwyr sy’n astudio yng Nghymru. Nid yw hawl yn dibynnu ar incwm y cartref.
  • Cymorth gyda chostau byw – mae pecyn cymorth sy’n cyfuno Grant Dysgu Llywodraeth Cymru a Benthyciad Cynhaliaeth o hyd at £11,720 ar gael i helpu gyda chostau fel bwyd, llyfrau, rhent a threuliau eraill tra byddwch yn astudio. Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar incwm y cartref.

Gwnewch gais ar-lein yn cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

Mae myfyrwyr addysg uwch rhan-amser yn gymwys i wneud cais am y cymorth canlynol:
  • Cymorth Ffioedd Dysgu – mae Benthyciad Ffioedd Dysgu o hyd at £2,625 ar gael i ddysgwyr sy’n astudio yng Nghymru. Nid yw hawl yn dibynnu ar incwm eich cartref; fodd bynnag, mae’n rhaid i chi fod yn astudio dwyster cwrs o 25% o leiaf.
  • Cymorth gyda chostau byw – mae pecyn cymorth sy’n cyfuno Grant Dysgu Llywodraeth Cymru a Benthyciad Cynhaliaeth o hyd at £6,488 ar gael i helpu gyda chostau fel bwyd, llyfrau, rhent a threuliau eraill tra byddwch yn astudio. Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar incwm y cartref a dwyster y cwrs.
Gwnewch gais ar-lein yn cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Cefnogaeth bellach sydd ar gael i fyfyrwyr addysg uwch:
  • Grant Cymorth Arbennig
  • Grant Gofal Plant
  • Grant Oedolion Dibynnol
  • Lwfans Dysgu i Rieni
  • Lwfans Myfyrwyr Anabl
Gwnewch gais ar-lein studentfinancewales.co.uk

Bwrsariaeth Coleg Sir Benfro ar gyfer myfyrwyr Lefel 3 sy’n symud ymlaen i gyrsiau AU llawn-amser.

Mae bwrsariaeth o £500 ar gael i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau AU llwan-amser yng Ngholeg Sir Benfro sydd wedi symud ymlaen o gwrs Lefel 3 yng Ngholeg Sir Benfro y flwyddyn academaidd flaenorol. Caiff y taliad ei rannu a’i wneud ar ôl cwblhau blwyddyn un ac ar ôl cwblhau’r cwrs.

Nod y gronfa yw hybu addysg plant a phobl ifanc dan 25 oed sy’n byw ym Mhlwyf Rudbaxton, Sir Benfro.

Gall unigolion wneud cais am grantiau hyd at £1,000 y flwyddyn, y gellir eu defnyddio tuag at ddeunyddiau, offer a gweithgareddau/teithiau.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Quality Award Logo.
Green Dragon Logo.
Disability Confident Logo.
Armed Forces Bronze Logo.
Black Leadership Group Affiliated Organisation Logo