Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd
Byddwch yn rhan o sefydliad llwyddiannus
Mae Coleg Sir Benfro yn Goleg Addysg Bellach sydd wedi hen ennill ei blwyf, ac mae’n un o’r gweithleoedd mwyaf yn y Sir gan gyflogi dros 500+ o staff cymwys ac ymroddedig iawn.
Rydym yn ymfalchïo mewn darparu addysg a hyfforddiant o’r radd flaenaf i dros 13,000 o ddysgwyr ar gampws bywiog mewn sir hardd.
Fel Coleg rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ‘diwylliant o ddyhead’ ar gyfer ein dysgwyr, cyflogwyr a chwsmeriaid a bydd gweithio yng Ngholeg Sir Benfro yn golygu eich bod yn cael cefnogaeth dda ac yn gweithio fel rhan o gymuned staff.
Mae Cymuned ein Coleg yn un groesawgar, gofalgar, cadarnhaol, brwdfrydig, sy’n tanio uchelgais gyda chyfleoedd a chefnogaeth i alluogi pawb i gyflawni eu nodau personol a phroffesiynol.
Mae ein cyfleoedd gwaith amrywiol yn cynnig hyblygrwydd wrth ddatblygu gyrfa mewn meysydd sy’n amrywio o Addysgu, Hyfforddi a Rheoli i Adnoddau Dynol, Cyllid a TG.

Hawliau Staff
- Talu’r cyflog byw ‘Go iawn’
- Lwfans gwyliau deniadol
- Darlithwyr: 46 diwrnod
- Rheolwyr: 37 diwrnod
- Pob aelod arall o staff: 28 diwrnod (32 ar ôl 5 mlynedd)
- Cofrestru awtomatig i Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) a/neu Gynllun Pensiwn Athrawon
- Tâl salwch corfforaethol, mamolaeth a thadolaeth uwch
- Gweithio hyblyg

Manteision Staff
- Sicrhau cyflogaeth o fewn Coleg cymunedol mawr sydd wedi’i hen sefydlu
- Gostyngiad o 75% ar gyrsiau rhan-amser
- Gostyngiad o 30% yn ein Salonau Trin Gwallt a Harddwch
- Cyfleuster meithrinfa ddydd ar y safle
- Aelodaeth undeb llafur cydnabyddedig
- Cynllun cymdeithas staff mewnol
- Sefydliad y Merched
- Aelodaeth campfa a dosbarthiadau ffitrwydd
- Aelodaeth Cyngor Chwaraeon y Gwasanaeth Sifil (CSSC) dim ond £4.50 y mis
- Caffeteria ar y campws, siop, Starbucks, bwyty SEED a siop goffi

Lles Staff
- Tîm iechyd a lles ymroddedig i staff
- Cymorth cyntaf, hyfforddiant a chefnogaeth iechyd meddwl
- Cefnogaeth cyfoedion hyfforddedig
- Cefnogaeth cwnsela ar y safle a thros y ffôn
- Gwasanaethau iechyd galwedigaethol
- Rhaglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).
- Cynllun beicio i’r gwaith
- Grwpiau cymorth gan gynnwys: menopos a gofalwyr
“Mae Coleg Sir Benfro wedi bod yn gyflogwr cefnogol iawn i mi, yn darparu DPP ychwanegol a hyfforddiant i mi yn fy swydd. Rwy’n ddiolchgar i gael cyflogwr sydd wedi gallu gweld fy mhotensial i’m galluogi i symud ymlaen yn broffesiynol mewn maes o’m dewis.”
Swyddog Iechyd a Lles y Dysgwr
“Mae gweithio yng Ngholeg Sir Benfro wedi fy ngalluogi i gyrraedd fy mhotensial llawnaf ochr yn ochr â chael y profiad mwyaf amrywiol a chyffrous o weithio - does dim dau ddiwrnod byth yr un fath. Rwyf wedi elwa ar nod strategol Coleg Sir Benfro o ‘fod yn Goleg sy’n buddsoddi yn ei holl staff’ ar ôl cwblhau pedwar cymhwyster addysg uwch a thri fframwaith prentisiaeth. Trwy ddatblygiad wedi'i gefnogi, mae Coleg Sir Benfro wir wedi gwireddu fy nyheadau ac wedi fy ngwthio i fynd un cam ymhellach; o gael fy nghyflogi fel Technegydd i Uwch Ddarlithydd i Reolwr Maes Cwricwlwm.”
Rheolwr Maes Cwricwlwm
“Rwyf wedi profi llawer o heriau personol a phroblemau iechyd wrth weithio yn y Coleg, ers y 1990au. Mae fy rheolwyr amrywiol, a'r Coleg cyfan, bob amser wedi bod yn gefnogol iawn. Mae’r gefnogaeth rwyf wedi derbyn wedi bod yn helaeth ac wedi amrywio o newid mewn patrwm gweithio i sesiynau cefnogi 1:1 rheolaidd gyda’r Swyddog Llesiant. Heb y gefnogaeth a dderbyniais, ni fyddwn wedi gallu aros yn y gwaith a bod yn aelod gwerthfawr o dîm y Coleg.”
Uwch Ddarlithydd
Ymrwymiad Coleg Sir Benfro i’r Lluoedd Arfog
Yng Ngholeg Sir Benfro rydym yn falch o gefnogi lluoedd arfog a milwyr wrth gefn y DU. Rydym wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog fel addewid gwirfoddol o gyd-gefnogaeth rhwng cymuned y Coleg a’i gymuned lluoedd arfog lleol.
Mae’r rhai sy’n gadael y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr neu filwr wrth gefn yn cael mynediad gwarantedig i broses ddethol y Coleg ar gyfer unrhyw rôl ar yr amod eu bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd. Mae’n bosibl y gall milwyr wrth gefn gael gwyliau blynyddol ychwanegol ar gyfer ymgymryd â gweithgareddau milwyr wrth gefn.
Coleg Sir Benfro yn cael ei gydnabod fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd
Mae’r Coleg wedi ennill Statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac mae’n gwarantu mynediad i broses ddethol y Coleg ar gyfer ymgeiswyr sy’n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.