Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET)
Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET)
Tystysgrif Broffesiynol i Raddedigion mewn Addysg a Hyfforddiant (TAR) | Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg a Hyfforddiant (PCE)
Os hoffech addysgu neu hyfforddi yn y sector ôl-16 mewn addysg bellach, addysg uwch, dysgu seiliedig ar waith, hyfforddiant diwydiant, neu leoliad galwedigaethol arall, yna bydd y rhaglen hon o ddiddordeb i chi.
Mae’r ffioedd fesul blwyddyn academaidd, yn amodol ar newid
£2,340
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol fel gweithiwr addysgu proffesiynol i’r dysgwyr y byddwch yn eu cefnogi.
Nodwch os gwelwch yn dda:
- Mae’r Dystysgrif Broffesiynol mewn Addysg a Hyfforddiant (PCE) yn gofyn bod cyfnod priodol o brofiad proffesiynol wedi’i gwblhau cyn mynediad ac isafswm o gymhwyster Lefel 3.
- Mae’r Dystysgrif Broffesiynol i Raddedigion mewn Addysg a Hyfforddiant (TAR) yn gofyn am radd israddedig.
Mae’r cwrs dwy flynedd hwn (30 wythnos y flwyddyn academaidd) fel arfer yn rhedeg un diwrnod yr wythnos rhwng 1pm a 7pm, gan ddechrau ym mis Medi.
Mae’r coleg yn gorff cysylltiedig i Brifysgol Cymru ac wedi’i ddynodi’n Sefydliad Technegol Prifysgol Cymru (STPC). Mae’n gweithio mewn partneriaeth â Choleg Sir Benfro, Choleg Sir Gâr, Coleg Ceredigion, Coleg Caerdydd a’r Fro a Grŵp Colegau NPTC i ddatblygu addysg dechnegol uwch a hyfforddiant ac arloesedd a arweinir gan gyflogwyr. Gan weithio o fewn strwythur cydffederal, caiff y rhwydwaith o Sefydliadau Technegol ei lywio gan anghenion cyflogwyr a’i nod yw hyrwyddo cyfle cyfartal ac annog cyfranogiad mewn addysg drydyddol.
Mae dysgwyr sy’n cymryd rhan mewn cyrsiau a ddarperir gan y coleg fel un o Sefydliadau Technegol Prifysgol Cymru yn derbyn dyfarniad a ddilysir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Level 3 qualification is normally required, but not essential depending on ability and experience
- Life skills, experience and maturity are important
- Direct admission for applicants who have been out of full-time education for more than two years will be considered based on previous learning or experience
- Each application is considered on individual merit
- Entry may be subject to interview
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Sylwch fod rhaglen hyfforddi athrawon rhan-amser bresennol PCYDDS yn mynd trwy broses ddilysu a bydd teitlau modiwlau a gynigir ar gyfer mis Medi 2026 yn newid ond bydd yr egwyddorion a’r arferion a ddysgir ar y rhaglen sy’n ymwneud â chymhwyso fel athro AB yn aros yr un fath ac yn cael eu diweddaru.
Byddwch yn datblygu’r sgiliau craidd, yna’n symud ymlaen i ystyriaeth fanylach o agweddau ar ddatblygu’r cwricwlwm, mesurau sicrhau ansawdd ac archwilio materion cyfoes o fewn addysg ôl-orfodol.
Bydd y modiwlau i’w hastudio yn cynnwys:
- Pecyn Cymorth Addysgu (Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2)– archwilio rhai o’r sgiliau addysgu allweddol fel cynllunio gwersi, gosod amcanion dysgu a monitro llwyddiant myfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth.
- Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Arfer Cynhwysol (Blwyddyn 1) – datblygu ymwybyddiaeth o sut i gefnogi dysgwyr ag anghenion ychwanegol o fewn addysg ôl-orfodol.
- Rheoli Ymddygiad a Chefnogi Ymgysylltiad Dysgwyr (Blwyddyn 1) – archwilio strategaethau ar gyfer rheoli ymddygiad cadarnhaol a strategaethau ymyrryd sy’n berthnasol i ddysgwyr ôl-16.
- Arloesedd Digidol ac Ymarfer Proffesiynol (Blwyddyn 1) – archwilio rhai o’r ffyrdd y gellir defnyddio offer dysgu digidol i wella a chefnogi’r profiad dysgu a’ch ymarfer addysgu eich hun.
- Prosiect Ymchwil Gweithredol (Blwyddyn 2) – ymchwilio ac archwilio mater sydd o ddiddordeb proffesiynol i chi a chyflwyno eich canfyddiadau mewn cyd-destun priodol.
- Datblygiad Proffesiynol a’r Ymarferydd PCET (Blwyddyn 2) – nod y modiwl hwn yw eich cefnogi wrth ystyried rôl datblygiad proffesiynol gan gynnwys sut i ddatblygu eich proffil proffesiynol eich hun ar gyfer cyflogadwyedd a dilyniant gyrfa yn y dyfodol.
Gofynion ymarfer addysgu
Ym mlwyddyn 1 rhaid cofnodi lleiafswm o 30 awr ymarfer addysgu ac isafswm pellach o 70 awr ym mlwyddyn 2 Er y gallwn ni yn y coleg geisio cysylltu â rheolwyr cwricwlwm ar eich rhan i gael oriau ôl-16, dylai’r dysgwr hefyd ystyried cyfleoedd allanol.
Gwahoddir pob ymgeisydd i gyfweliad i sicrhau mai’r TAR/PCET ôl-16 yw’r cymhwyster cywir i chi.
Efallai y bydd ymgeiswyr hefyd eisiau ystyried y Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant – cwrs byr sy’n darparu blwch offer i’r rhai sydd â diddordeb mewn addysgu a hyfforddiant ôl-16.
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Continuous assessment during the course
- Portfolio of evidence
Beth alla i ei wneud nesaf?
Mae graddedigion y rhaglen yn hynod gyflogadwy mewn ystod o sectorau addysgu a hyfforddi ar draws ystod amrywiol o broffesiynau.
Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Stationery - you will be told about any specific items before you start the course
- Textbooks - you will be told about any specific items before you start the course
- Enhanced DBS - If you will be doing work experience in your usual place of work, or currently have an Enhanced DBS this will meet the requirement. Otherwise there will be a fee of £49.50, payable before you start the course.
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Sut gallaf dalu am y cwrs hwn?
Dysgwch am y cyllid sydd ar gael i fyfyrwyr Addysg Uwch ar ein cyllid myfyrwyr dudalen.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael eich hepgor rhag talu ffioedd os ydych yn gyflogedig ac yn dilyn, neu’n bwriadu dilyn, rhaglen prentisiaeth uwch gyda Choleg Sir Benfro.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
| Lefel: | |
|---|---|
| Modd: | |
| Hyd: |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf

