Cafodd gwaith dau fyfyriwr Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol Coleg Sir Benfro ei gydnabod yn rowndiau terfynol Gwobrau Prifysgol De Cymru eleni am y defnydd o deledu a ffilm mewn ysgolion a cholegau.
Enillodd Scott Thomas, a gwblhaodd y cwrs yn 2021, y categori Ffilm An-naratif, Arbrofol neu Animeiddiedig Orau tra daeth y myfyriwr presennol Tomos Bowie yn ail yn y categori Ffilm Naratif Orau (Dogfennol).
Wedi’u cynnal yng Nghaerdydd yn ystod mis Rhagfyr, sefydlwyd Gwobrau Ysgolion a Cholegau Ysgol Ffilm a Theledu Cymru gan Brifysgol De Cymru i ddathlu’r gwaith gwych sy’n mynd ymlaen gan ddefnyddio ffilm a theledu mewn ysgolion a cholegau, a thalent aruthrol pobl ifanc. Mae’r gwobrau’n cydnabod angerdd pobl ifanc at ffilm, yn rhoi sylw i sêr newydd ac yn anrhydeddu addysgwyr dylanwadol mewn partneriaeth ag IntoFilm a Screen Alliance Wales.
Gyda cheisiadau o bob rhan o Gymru a Lloegr, gwobr Scott nawr fydd derbyn mentora un-i-un gan arbenigwr yn y diwydiant.
Enwebodd Denys Bassett-Jones, darlithydd Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol y Coleg, y dysgwyr a dywedodd: “Roeddwn i wrth fy modd gyda’r canlyniadau hyn. Rydym fel Coleg yn ymfalchïo yn ein llwyddiant parhaus mewn cystadlaethau proffil uchel ac rwyf mor falch bod Scott a Tomos wedi ennill cydnabyddiaeth am eu hymdrechion ar y cwrs Cyfryngau Creadigol.”