Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Cyn fyfyriwr y Coleg yn anelu at fod y capten ieuengaf

Lowri Boorman

Mae cyn-fyfyriwr peirianneg Coleg Sir Benfro, Lowri Boorman, sy’n 19 oed, wedi gosod ei bryd ar fod y person ieuengaf i fod yn gapten ar gwch hwylio yn Ras Fawr O Gwmpas Prydain ac Iwerddon 2022 Clwb Hwylio Brenhinol y Gorllewin. Gyda’i dirprwy, Elin Jones o Wrecsam, maen nhw hefyd yn anelu at gipio teitl y pâr benywaidd ieuengaf i gwblhau’r ras

Yn digwydd bob pedair blynedd, mae Lowri ac Elin am ysbrydoli mwy o ferched ifanc i fynd i mewn i’r hyn sy’n dal i fod yn gamp sy’n cael ei dominyddu gan ddynion. Ar ôl ymuno â Chynllun ‘Onboard’ RYA i gael plant ifanc i hwylio yn wyth oed, dechreuodd hyfforddi yng nghlybiau cychod hwylio Neyland, Abergwaun a Sir Benfro ac mae bellach yn gweithio o fewn y sector yn darparu cychod hwylio i gleientiaid ledled Ewrop ac fel hyfforddwraig yn Academi Hwylio Sir Benfro. Mae Lowri yn frwd dros hwylio ac eisiau dangos yr hyn sy’n bosibl gydag uchelgais, dewrder a phenderfyniad.

Er mwyn cystadlu mae’n rhaid i Lowri ac Elin godi bron i £9,000 yn gyntaf sy’n cynnwys tua £7,000 i logi cwch hwylio ar gyfer y digwyddiad yn ogystal â thâl mynediad o £1,700.

Yn Sgwad Cenedlaethol Prydain yn 15 oed, ac wedi ei choroni’n Bencampwraig Genedlaethol Benywaidd ‘Topper’ yn y Pencampwriaethau Cenedlaethol yn 2018, mae gan Lowri gyfoeth o brofiad hwylio yn ogystal â’i chymhwyster iotfeistr sy’n ei galluogi i fod yn gapten ar gychod hwylio hyd at 24 metr o hyd a hyd at 150 milltir oddi ar y lan.

Meddai Lowri: “Rydym yn chwilio am noddwyr lleol i’n helpu i godi’r arian sydd ei angen i gwblhau’r her. Byddem wrth ein bodd yn gallu lledaenu enwau busnesau lleol ar ein taith o amgylch Ynysoedd Prydain.

“Tra bod hon yn un o’r rasys mwyaf anodd, mae gan y ddau ohonon ni brofiad hwylio helaeth ac rydyn ni’n barod am yr her. Rydyn ni wedi dod yn fwy penderfynol fyth ers i ni’n dwy benderfynu anrhydeddu ein mamgu a’n tadcu a fu farw yn anffodus o ddementia trwy wneud y ras er cof amdanyn nhw tra ar yr un pryd yn codi arian i Gymdeithas Alzheimer.”

Gan ddechrau ar 29 Mai yn Plymouth, bydd y ras yn ymestyn dros 2,000 o filltiroedd morol gyda thair stop gorfodol yn Galway, Lerwick a Blyth.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn noddi Lowri ac Elin, neu yn adnabod rhywun gyda chwch hwylio addas a fyddai’n fodlon cefnogi’r her wych hon, cysylltwch â Lowri ac Elin trwy eu gwefan lle gallwch ddarganfod mwy am yr her a’u profiad hwylio: www.landeoffshore.com neu i gyfrannu ewch i’w tudalen GoFundMe.

Shopping cart close