Mae Tom Wickens, myfyriwr Lefel-A yng Ngholeg Sir Benfro, yn entrepreneur pobi newydd ac sydd ar y gweill ac mae ei gacennau cri yn cydio yn dant melys y sir.
Lansiodd Tom, pobydd angerddol, ei fusnes yn ystod pandemig Ebrill 2021 yn gwerthu nwyddau wedi’u pobi’n ffres o gartref ei deulu a gadael blwch gonestrwydd allan fel ffurf o ymchwil marchnad i weld faint fyddai pobl yn ei dalu am nwyddau wedi’u pobi’n ffres a beth flas oedd fwya poblogaidd.
Daeth y lansiad yn llwyddiannus iawn, ac ymledodd y gair yn fuan, gan arwain at Tom yn dechrau cymryd archebion ar-lein.
Meddai Tom, “Fe ddaeth y pice ar y maen yn boblogaidd a sylweddolais yn gyflym y byddai angen i mi greu gwefan i gwsmeriaid eu harchebu. Fe wnaeth hyn hefyd fy helpu i aros yn drefnus a lleihau gwastraff wrth i mi bobi yn ôl archeb.”
Buan y dechreuodd Tom’s bakes ddenu busnesau lleol a nawr mae Tom yn darparu gwasanaeth i siopau fferm lleol ar draws y sir.
Dywedodd Emma Lippiett, Rheolwr Maes Cwricwlwm ar gyfer Lefel-A, “Mae Tom yn entrepreneur rhagorol; mae wedi llwyddo i adeiladu ei fusnes llwyddiannus ei hun wrth gyflawni ei astudiaethau Lefel-A. Rydym wrth ein bodd yn gweld Plumstone Bakes yn tyfu oherwydd gwaith caled ac ymrwymiad Tom (a phice ar y maen blasus). Mae’n wir ysbrydoliaeth i fyfyrwyr sydd â’u syniadau busnes eu hunain ac yn glod i gymuned y Coleg.”
Ar ôl Coleg, mae Tom yn awyddus i sefydlu ei gaffi symudol ei hun yn y gobaith y gall ysbrydoli eraill o’i oedran ei hun.
“Allwch chi byth fod yn rhy ifanc i ddechrau busnes. Byddwn yn cynghori eraill i wneud llawer o ymchwil marchnad a dod o hyd i fwlch yn y farchnad sydd â photensial. Mae angen i chi fod yn angerddol hefyd! Dysgais fy holl sgiliau pobi gan fy mam ac mae’r Coleg wedi fy nghefnogi gyda’r freuddwyd hon. Maen nhw wedi bod mor garedig â darparu deunyddiau marchnata wedi’u brandio i mi eu defnyddio mewn digwyddiadau amrywiol.”
Yn ddiweddar mae Tom wedi ehangu’r blasau o gacennau cri y mae’n ei cynnig o siocled gwyn, siocled llaeth, siocled gwyn a mafon, sinsir a lemwn a siocled tywyll a sinsir. I archebu eich hoff flasau ewch draw i’w tudalen Facebook.