Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Cyn fyfyriwr Coleg Sir Benfro yn cyhoeddi llyfr iechyd meddwl

Mair Elliott

Mae cyn-fyfyriwrg y Coleg Mair Elliott wedi cyhoeddi llyfr yn ddiweddar yn ymwneud ag iechyd meddwl, salwch meddwl, a bod yn awtistig. Yn ‘From Hurt to Hope’, sydd bellach ar gael i’w brynu o Waterstones, mae Mair hefyd yn myfyrio ar ei rôl fel eiriolwr iechyd meddwl.

Pan ofynnwyd iddi a fyddai’n ystyried ysgrifennu llyfr am ei phrofiadau, dywedodd Mair mai ei meddwl cyntaf oedd creu casgliad o straeon gan bobl awtistig: “Mae’r gymuned awtistiaeth wedi fy helpu yn fy nghyfnodau tywyllaf ac wedi dathlu gyda mi yn fy nghyfnodau hapusaf. Helpodd y gymuned fi gyda fy awtistiaeth, ac rwy’n fythol ddiolchgar am hynny.”

Dywedodd Mair ei bod yn gwybod bod y cyfle hwn i ysgrifennu llyfr wedi ei rhoi mewn sefyllfa ddylanwadol, “Rwy’n ymwybodol iawn bod cael cynnig cytundeb cyhoeddi yn rhoi rhywfaint o bŵer i mi yn y byd hwn. Rwyf wedi ceisio cynnwys lleisiau o gefndiroedd gwahanol, nid dim ond pobl sy’n edrych fel fi.”

Bydd llawer o bobl yn adnabod Mair fel eiriolwr dros iechyd meddwl a gofal iechyd meddwl. Pan ofynnwyd iddi sut y byddai’n disgrifio iechyd meddwl, dywedodd Mair, “Fel rwy’n siŵr eich bod yn gwybod, mae iechyd meddwl yn beth cymhleth, ond pe baech yn gofyn i mi beth roeddwn i’n meddwl yw iechyd meddwl ar ei lefel gyfansoddiadol, byddwn yn dweud ‘gobaith’.

“Mae llawer yn mynegi’r diffyg gobaith pan maen nhw mewn pyllau o anobaith. Rwyf i fy hun wedi bod yn y sefyllfa honno, ac felly mae’n ymddangos yn rhesymegol i fynegi iechyd meddwl fel gobaith.

“Er gwaethaf sut deimlad yw hi o fod mewn pydew o anobaith, mae yna lwybr i obaith.”

Mae’r straeon byrion sydd wedi’u cynnwys yn llyfr Mair yn darlunio dim ond llond llaw o ffyrdd y mae pobl awtistig wedi gwneud y siwrnai honno o anobaith i obaith. Gobaith Mair yw y bydd y gyfrol yn ehangu gorwelion pobl. Wrth ddarllen y gyfrol dywedodd Mair, “Rwy’n gobeithio y gallwch chi ddysgu rhywbeth amdanoch chi’ch hun, a gobeithio y gallwch chi herio’ch hun i wrando ar rywun nad ydych chi efallai’n ei glywed fel arfer.”

Shopping cart close