Cymorth Arobryn
Cysylltwch â ni:
- Dewch o hyd i ni lan llofft yn Yr Hwb
- Dydd Llun i Ddydd Gwener: 08:00 i 17:00


Cymorth Ariannol

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Mae gennym dîm mawr o Gynorthwywyr Cymorth Dysgu (CCD) sy’n darparu cymorth ystafell ddosbarth, gweithdy a galw heibio i’n holl ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, anawsterau dysgu ac anableddau yn ystod eu cyfnod yn y Coleg.
Gellir addasu cymorth CCD i weddu i anghenion unigol dysgwr. Mae’r cymorth yn amrywio o gefnogi anghenion dysgwyr unigol ar sail 1:1 neu ar y cyd; cymorth i gwblhau aseiniadau, addasu adnoddau, gwneud nodiadau, rheoli amser, sgiliau trefnu, a datblygu eu sgiliau llythrennedd digidol, rhifedd a llythrennedd.
Mae’r tîm hefyd yn darparu cymorth personol i gynorthwyo gyda gweithgareddau o ddydd i ddydd. Bydd dysgwyr ag anghenion symudedd, anghenion meddygol ac anghenion gofal cyffredinol yn cael eu cefnogi ag urddas a pharch ac mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Mae pob un o’r CCD a’r CSW yn gweithio’n agos iawn gyda’r timau addysgu cwricwlwm ac yn cael eu hyfforddi a’u hannog i ddatblygu sgiliau annibyniaeth dysgwr tra yn y Coleg.
Bydd y tîm Cymorth i Ddysgwyr yn gweithio gyda chi, a’r bobl sy’n eich adnabod orau. Gallai hyn fod eich ysgol, rhieni, gofalwyr, a Gyrfa Cymru i sicrhau bod gennym y wybodaeth gywir am y ffordd orau i’ch cefnogi yn ystod eich cyfnod pontio a derbyn i’r Coleg. Gall hyn gynnwys mynychu Adolygiad Blynyddol eich Ysgol; cynnig ymweliad pontio unigol neu grŵp bach â’r Coleg; eich helpu i wneud cais i’r Coleg a’ch cefnogi drwy’r broses dderbyn; sicrhau bod yr holl drefniadau mynediad neu ofal personol priodol yn eu lle.
Gweler Canllaw Gweithredu Ôl-16 ColegauCymru.
Pa bynnag gwrs y bydd dysgwr yn ymuno ag ef, byddwn yn sicrhau bod eich holl anghenion dysgu ychwanegol, anawsterau dysgu neu anableddau, yn cael eu diwallu yn amgylchedd y Coleg.
Mae ein cyrsiau Sgiliau Byw’n Annibynnol yn canolbwyntio ar ABCh, Sgiliau Galwedigaethol, a Sgiliau Hanfodol Cymru. Maen nhw’n ddelfrydol os ydych chi’n ansicr pa lwybr i’w ddilyn nesaf ac angen y ddarpariaeth ychwanegol honno. Mae cymorth CCD ar gael lle bo angen i bob dysgwr.
Cliciwch yma i weld fideo byr llawn gwybodaeth.

Cymorth yn y Coleg
Y peth nesaf yw dod o hyd i’ch Anogwr Dysgu yn Yr Hwb – byddan nhw’n gallu’ch helpu chi i wneud cynllun a’ch helpu i fod ar ben eich llwyth gwaith unwaith eto.
Mae gan bob dysgwr yn y Coleg fynediad at Anogwr Dysgu pwrpasol i gynorthwyo’r pontio academaidd o’r ysgol i’r Coleg. Un o brif amcanion y tîm yw annog datblygiad sgiliau dysgu annibynnol; a fydd yn galluogi dysgwyr i gyflawni eu nodau academaidd.
Bydd Anogwyr Dysgu yn gweithio gyda dysgwyr i’w helpu i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i’w galluogi i ddod yn ddysgwyr annibynnol. Gallant drefnu sesiynau 1-1 neu sesiynau grŵp, wedi’u teilwra i anghenion yr unigolyn.
Gall sesiynau gynnwys:
- Trefniadaeth
- Gwaith aseiniad
- Technegau adolygu
- Sgiliau astudio
- Cymhelliant
Mae gennym hefyd raglen Llais y Dysgwr weithgar a byddwch yn cael eich annog i ddod yn Gynrychiolydd Cwrs neu hyd yn oed sefyll ar gyfer Myfyriwr-lywodraethwr i sicrhau bod barn dysgwyr yn cael ei chlywed.
Mae Judith Evans yn ymroddedig i gymorth a lles ein dysgwyr sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal. Mae Judith wedi ei lleoli yn Yr Hwb (i fyny’r grisiau yn yr atriwm). Ei rhif ffôn yw: 01437 753186, e-bost safe@pembrokeshire.ac.uk
Mae Judith wedi ei lleoli yn Yr Hwb (i fyny’r grisiau yn yr atriwm). Ei rhif ffôn yw: 01437 753186, e-bost safe@pembrokeshire.ac.uk
Cyfleoedd dwyieithog
Mae croeso i fyfyrwyr gael mynediad i diwtorialau yn Gymraeg, i gwblhau asesiadau neu aseiniadau trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae llawer o unedau y gallwch eu hastudio yn Gymraeg neu’n ddwyieithog hefyd.
Bydd astudio eich cwrs galwedigaethol yn ddwyieithog yn eich helpu i ddatblygu sgiliau gwerthfawr ar gyfer y gweithle a bydd yn rhoi ystod ehangach o opsiynau i chi pan fyddwch yn gadael y Coleg.
Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi
Os oes gennych unrhyw bryderon am eich astudiaethau rhowch wybod iddynt, os oes gennych unrhyw bryderon am bethau heblaw eich cwrs, byddant yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun a all helpu.
Anogwyr Bugeiliol
Wrth law trwy gydol eich astudiaeth i’ch cefnogi gydag unrhyw faterion y gallech fod yn eu hwynebu.
Tîm Arweiniad
Gall ein Tîm Cyngor ac Arweiniad eich cefnogi gyda’ch dilyniant, p’un a oes angen help arnoch i nodi’ch uchelgeisiau, gwybod sut i gyrraedd lle rydych am fod, neu’n syml ymchwilio i’ch opsiynau. Mae ein cynghorwyr cyfeillgar yma i’ch helpu. Galwch heibio ac ymwelwch â nhw yn y Swyddfa Dderbyn neu anfonwch e-bost atynt: admissions@pembrokeshire.ac.uk
Caplan
Mae gennym gaplan anenwad sy’n mynychu’r Coleg unwaith yr wythnos.
Cwnsela
Mae’r Coleg yn darparu gwasanaeth cwnsela cyfrinachol am ddim i fyfyrwyr a staff. Bydd y tîm cwnsela yn eich helpu i archwilio eich meddyliau, eich teimladau a’ch pryderon ac i ystyried eich opsiynau fel y gallwch wneud y penderfyniadau sydd orau i chi.
Gallwch wneud apwyntiad i weld aelod o’r tîm cwnsela drwy ffonio neu drwy anfon e-bost at counselling@pembrokeshire.ac.uk
Gweithiwr Ieuenctid
Mae ein Gweithiwr Ieuenctid wrth law i helpu i gyfeirio dysgwyr sy’n cael anawsterau gydag unrhyw agwedd o’u hastudiaethau neu fywyd yn gyffredinol.
Mae’r Coleg yn falch o fod yn gweithio gyda Buddsoddwyr mewn Gofalwyr a’r prosiect Gyrru Newid mewn partneriaeth â’r Ffederasiwn Gofalwyr a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith. Mae gennym wobr efydd Buddsoddwyr mewn Gofalwyr a Safon Ansawdd y Ffederasiwn Gofalwyr ar gyfer Cymorth i Ofalwyr.
Rydym yn cynnig y canlynol i’n Gofalwyr:
- Tîm ymroddedig y gall Gofalwyr di-dâl droi ato am gefnogaeth a chyfeirio, gellir cyrraedd y Tîm Diogelu a Llesiant trwy e-bostio safe@pembrokeshire.ac.uk
- Gwasanaeth cyfeirio i gofrestru dysgwyr fel Gofalwyr gyda’u Meddyg Teulu a gyda Gwasanaethau Gwybodaeth i Ofalwyr.
- Adnoddau i Ofalwyr – gan gynnwys rhestrau o sefydliadau sydd ar gael i helpu Gofalwyr, gwybodaeth am fudd-daliadau, iechyd a lles a sut i gael cyngor ac arweiniad un-i-un.
- Darparu rhwydwaith i Ofalwyr gyfarfod ac ymgysylltu â dysgwyr eraill sy’n Ofalwyr
- Os oes adeg pan fydd cyfrifoldeb y Gofalwr yn effeithio ar eu hastudiaethau gallant ddod ag ef i sylw’r tîm Diogelu a bydd y Coleg yn ystyried addasiadau rhesymol.
- Rhoi blaenoriaeth i Ofalwyr am gymorth ariannol o’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn.
- Cefnogi Dysgwr sy’n Ofalwr i gynrychioli Gofalwyr eraill mewn cyfarfodydd Llais y Dysgwr ac i weithio ochr yn ochr â’n tîm Diogelu a Lles i gadw anghenion Gofalwyr ar flaen y gad o ran darparu gwasanaethau i ddysgwyr.
- Trefnu digwyddiadau sy’n codi ymwybyddiaeth a darparu gwybodaeth i Ofalwyr fel dathlu Diwrnod Gofalwyr Ifanc ac Wythnos Ymwybyddiaeth Gofalwyr.
Angen rhywun i siarad â nhw?
Eich Tiwtor
Os oes gennych chi unrhyw bryderon am eich astudiaethau rhowch wybod i’ch tiwtor, mae’n bwysig eu bod nhw’n gwybod a ydych chi’n cael trafferth neu ddim yn deall fel eu bod nhw’n cynnig y cymorth cywir. Os oes gennych unrhyw bryderon am bethau heblaw eich cwrs, byddant yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun a all helpu.
Anogwyr Bugeiliol
Mae gan bob Cyfadran Anogwyr Bugeiliol penodedig y byddwch yn cael eich cyflwyno iddynt yn ystod wythnosau cyntaf y Coleg. Bydd eich Anogwr Bugeiliol wrth law trwy gydol eich astudiaethau i’ch cefnogi gydag unrhyw faterion y gallech fod yn eu hwynebu.
Gofal Bugeiliol – Cynnydd
Mae Cynnydd yn brosiect cymorth bugeiliol a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru. Mae tîm Cynnydd o fentoriaid yn darparu cymorth un-i-un, gofal bugeiliol a chyngor i ddysgwyr 16-24 oed, sy’n profi anawsterau neu rwystrau sy’n eu hatal rhag cyflawni eu llawn botensial. Mae cymorth yn cynnwys apwyntiadau a gwasanaeth galw heibio, cymorth a chyngor ar les, perthnasoedd, ymddygiad, presenoldeb, cyrhaeddiad, cymhelliant, magu hyder, tai, materion ariannol a chyfeirio at asiantaethau eraill am gymorth arall yn ôl yr angen, ynghyd â chyswllt rheolaidd drwy gydol amser y myfyriwr yn y coleg ac yn ystod holl wyliau’r coleg.
Ariennir y prosiect yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.
Ymgynghorwyr Gyrfaoedd
Gall Ymgynghorwyr Gyrfaoedd ac Arweiniad Coleg Sir Benfro eich cefnogi gyda’ch dilyniant; p’un a oes angen help arnoch i nodi’ch uchelgeisiau, gwybod sut i gyrraedd lle rydych am fod, neu’n syml ymchwilio i’ch opsiynau. Mae ein ymgynghorwyr cyfeillgar yma i’ch helpu. Ewch i’w gweld yn y Swyddfa Dderbyn neu anfonwch e-bost atynt.
WTîm Lles
Mae ein Tîm Lles yma i’ch helpu chi i gael y gorau o’ch profiad yn y Coleg. Mae gennym amrywiaeth eang o wasanaethau cymorth gan gynnwys nyrs, cwnselwyr, biwro cyflogaeth, caplan, gweithiwr ieuenctid, TogetherAll (gwefan yn cynnig cymorth ar-lein 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn) a llawer mwy. Ymwelwch â’r Hwb (ar frig y grisiau yn yr atriwm) i gael gwybod am y cymorth sydd ar gael a sut i gael mynediad ato.