Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Clwb Cogyddion Plant y Pasg

Clwb Cogyddion Plant y Pasg

Cacen Pasg gydag Wyau yn y cefndir

Creu danteithion Pasg gyda chogydd proffesiynol, i blant 8-12 oed.

SKU: 1103F7311
DYSGWYR:
ID: 56281/56280

£16.95

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Ymunwch â ni’r Pasg hwn am Glwb Cogyddion Plant llawn hwyl, lle bydd pobyddion ifanc yn treulio’r diwrnod yn dysgu, pobi ac addurno danteithion blasus y Pasg yn ein ceginau proffesiynol.

O dan arweiniad ein cogyddion cyfeillgar Krista a Chris, bydd plant yn cael eu cyflwyno i ddiogelwch yn y gegin, sgiliau pobi sylfaenol, a digon o greadigrwydd ymarferol.

Drwy gydol y dydd, bydd cyfranogwyr yn gwneud ac yn addurno byns cwningen Pasg sinamon a chacennau caws unigol, gan fynd â’u creadigaethau blasus adref i’w mwynhau gyda’r teulu.

Darperir yr holl gynhwysion, ryseitiau ac offer amddiffynnol personol (PPE). Mae egwyl ginio dan oruchwyliaeth gyda gweithgareddau lliwio wedi’i chynnwys, gan wneud hwn yn brofiad hamddenol a phleserus i bawb.

Mae’r clwb hwn yn berffaith i blant sy’n caru pobi, bod yn greadigol, a rhoi cynnig ar rywbeth newydd mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

Mae’n ofynnol i bob rhiant/gofalwr/gwarcheidwad lofnodi ffurflen ganiatâd; bydd y rhain yn cael eu e-bostio atoch ymlaen llaw.

Mae’n rhaid i’r plant ddod i leoliad y cwrs lle bydd y tiwtor yn cwrdd â nhw a bydd rhieni yn casglu eu plant ar ddiwedd pob sesiwn.
Mae’n rhaid i blant ddod â chinio pecyn gyda nhw.

  • Dim gofynion mynediad ffurfiol

Bydd plant yn dysgu creu danteithion Pasg.

Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

Dyma’r ffordd berffaith i annog dawn pobi a chreadigedd ymhlith plant, efallai y bydd yn annog gyrfa cogydd yn y dyfodol.

  • Nid oes angen unrhyw offer ychwanegol

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

  • Dim costau ychwanegol

  • Amherthnasol

Dyma’r ffordd berffaith i annog dawn pobi a chreadigedd ymhlith plant, efallai y bydd yn annog gyrfa cogydd yn y dyfodol.

  • Nid oes angen unrhyw offer ychwanegol

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.

  • Dim costau ychwanegol

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.

Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Cacen Pasg gydag Wyau yn y cefndir
You're viewing: Clwb Cogyddion Plant y Pasg £16.95
Select options
Shopping cart close