Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Three teens sitting on sofa looking at devices.

Croeso I Hwb Cofrestru

Rydym yn gwybod y gall y daith i ddechrau yn y Coleg fod yn gyffrous ond hefyd yn brofiad nerfus i chi. Ein nod yw ei gwneud mor hawdd â phosibl i chi. Mae’r Hwb hwn wedi’i gynllunio i roi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn dechrau ar eich cwrs yn ogystal â rhoi canllaw cam wrth gam i chi ar sut i gofrestru.

Fe welwch ddolenni i wybodaeth ddefnyddiol fel dyddiadau tymhorau a chyllid myfyrwyr yn ogystal â gwybodaeth am ein gwasanaethau cymorth.

Sut i Gofrestru

Ar gyfer yr Academi Sgiliau Bywyd (LSA) a Twf Swyddi Cymru+ (JGW+) ni fydd angen i chi gwblhau’r broses ar-lein. Sgroliwch ymhellach i lawr y dudalen hon, yn yr adran ‘Meysydd Cwrs’, i gael eich gwybodaeth cofrestru cyn eich diwrnod cyntaf.

Bydd cofrestru yn broses ar-lein a fydd yn gofyn i chi lanlwytho sawl dogfen i Borth Ceisiadau OnTrack. Bydd hyn yn ein galluogi i wirio eich canlyniadau a chadarnhau eich lle heb i chi orfod dod i mewn i’r Coleg.

Ymhellach i lawr y dudalen hon, yn yr adran ‘Meysydd Cwrs’, fe welwch y broses cofrestru a’r camau y bydd angen i chi fynd drwyddynt i gofrestru ar y cwrs yr ydych wedi gwneud cais amdano. Yn y tudalennau hyn byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth cwrs-benodol i’ch helpu i baratoi ar gyfer dechrau yn y Coleg.

I wneud cofrestru mor gyflym ac mor llyfn â phosibl, lanlwythwch lun o’ch slip canlyniadau TGAU cyn gynted â phosibl ar Ddiwrnod Canlyniadau TGAU.

Unwaith y byddwch wedi lanlwytho’ch canlyniadau, bydd y tîm Derbyniadau yn gwirio a ydych yn bodloni’r amodau mynediad ar gyfer eich dewis gwrs.

Os ydych wedi cyflawni’r graddau gofynnol byddwch yn derbyn e-bost yn dweud eich bod wedi cofrestru’n llwyddiannus a manylion am eich diwrnod cyntaf yn y Coleg.

Os nad ydych wedi bodloni’r amodau mynediad, peidiwch â phoeni, bydd rhywun yn cysylltu â chi i drafod eich opsiynau.

Gan y bydd gennym lawer o ganlyniadau i’w gwirio, caniatewch o leiaf ddau ddiwrnod gwaith llawn cyn cysylltu â’r Coleg i wirio cynnydd eich cofrestriad.

Unrhyw gwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau na allwch ddod o hyd i’r ateb iddynt ar y tudalennau hyn, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm Derbyniadau a fydd yn hapus i helpu: derbyniadau@colegsirbenfro.ac.uk

Meysydd Cwrs

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'n tîm derbyniadau

Shopping cart close