Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Adeiladwr Sgiliau (Peirianneg a Thechnoleg)

Adeiladwr Sgiliau (Peirianneg a Thechnoleg)

laptop half opened on a black background

Adeiladwr Sgiliau (Peirianneg a Thechnoleg)

Tystysgrif BTEC Lefel 1 Pearson mewn Technoleg Gwybodaeth

Datgloi eich potensial yn y dyfodol gyda’r cwrs hwn yn cyfuno sgiliau technoleg defnyddiol gyda gweithgareddau ymarferol cyffrous.

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cwrs ymarferol hwn yn cyfuno sgiliau TG dymunol â gweithgareddau ymarferol cyffrous sydd yr un mor ddymunol. Darganfod a datblygu sgiliau defnyddiol y dyfodol fel datrys problemau, cyfathrebu a TG trwy ystod o dasgau amrywiol megis adeiladu gwefan, weldio, dylunio gemau, hanfodion taenlen, cynnal a chadw ceir sylfaenol, gwaith prosiect, roboteg ac animeiddio.

 

Mae’r cwrs hwn yn cynnig blas ar wahanol lwybrau gyrfa; galluogi dysgwyr i archwilio sgiliau a diddordebau newydd a fydd yn eu paratoi yn well ar gyfer y dyfodol. Wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol bydd dysgwyr yn cael cipolwg ar wahanol feysydd, gan helpu i ddarganfod yn union pa yrfa i’w dilyn. Ymunwch â ni ar y daith hon o archwilio a chreadigedd, a gosodwch y sylfaen ar gyfer gyrfa yn y dyfodol neu astudiaethau pellach mewn technoleg.

 

Mae’r cwrs hwn fel arfer yn rhedeg pedwar diwrnod yr wythnos, am 28 wythnos, gan ddechrau ym mis Tachwedd.

  • Dau TGAU gradd G neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Llenyddiaeth Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd
  • Dylech fod â'r gallu corfforol i gwblhau elfennau ymarferol y cwrs hwn
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

  • Amherthnasol

Tystysgrif Lefel 1 mewn Technoleg Gwybodaeth

  • Bod yn Drefnus
  • Datblygu Cynllun Cynnydd Personol
  • Creu Gwefan
  • Creu Rhaglen Gyfrifiadurol
  • Datblygu Cynnyrch Digidol

Modiwlau Uwch Ychwanegol (nad ydynt yn rhan o’r Cymhwyster)

  • Hanfodion Ymarferol Weldi
  • Hanfodion Ymarferol Cerbydau Modur
  • Hanfodion Ymarferol Roboteg
  • Rhifedd
  • Llythrennedd
  • Gweithio gydag Eraill
  • Ymchwilio i bwnc
  • Datblygu Chwaraeon a Gemau (i’w gadarnhau)
  • Realiti Estynedig (gweithgareddau technoleg newydd)
  • Paratoi ar gyfer Cyflogaeth

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
  • pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg

Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.

Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.

Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk

Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.

Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:

Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd

Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.

Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Asesiad mewnol

Efallai y bydd dysgwyr yn gallu symud ymlaen i gwrs Lefel 1 neu Lefel 2 arall.

  • Oferols gwrth-fflam peirianneg - £35
  • Esgidiau diogelwch peirianyddol - £14/£35
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Gwybodaeth ychwanegol

Modd:

Lefel:

Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 11/10/2024

Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.

laptop half opened on a black background
You're viewing: Adeiladwr Sgiliau (Peirianneg a Thechnoleg) £0.00
Add to cart
Shopping cart close