Ydych chi’n hoffi dadansoddi a datrys problemau? Yna gallai peirianneg fod y llwybr i chi! Mae galw mawr am bynciau peirianneg o hyd ac mae’r rhai sy’n eu hastudio yn sefyll allan. Ar ôl cymhwyso mae’r cyfleoedd bron yn ddiderfyn gyda rhagolygon gwych ar gyfer dilyniant gyrfa.

Gwariwyd swm enfawr o £4.2 miliwn ar yr adain beirianneg ar y prif gampws gan ddarparu adnoddau peirianneg rhagorol i bob myfyriwr. Ymhlith y cyfleusterau mae gweithdai morol, mecanyddol a modurol yn ogystal â chanolfan ynni o’r radd flaenaf sy’n arbenigo mewn defnyddio technolegau adnewyddadwy.

Rydym yn cynnig cysylltiadau da â diwydiant ochr yn ochr â darlithwyr a thechnegwyr profiadol arbenigol i sicrhau bod ein cyrsiau’n diwallu anghenion diwydiant. Mae ystafelloedd dosbarth modern ac offer ac adnoddau manyleb uchel yn sicrhau bod myfyrwyr yn gadael y Coleg â’r sgiliau i symud ymlaen yn y sector cyffrous hwn sydd yn ehangu.

Showing 1–12 of 37 results