Aromatherapi

Aromatherapi
Diploma Lefel 3 VTCT mewn Aromatherapi
Datgloi pŵer iachâd olewau hanfodol gyda chelf therapiwtig Aromatherapi. Wedi’i gynllunio ar gyfer therapyddion sy’n angerddol am les ac ehangu eu set sgiliau.
SKU: 1201F7311
MEYSYDD: Trin Gwalt a Harddwch
DYSGWYR: Archebwch Nawr, Dysgwyr sy'n Oedolion
ID: 52658
£750.00
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Cymhwyster galwedigaethol cynhwysfawr wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau angenrheidiol i ddysgwyr ar gyfer gyrfa fel Aromatherapydd.
Mae’r cwrs yn dechrau gyda chyfuniad o hyfforddiant ymarferol a damcaniaethol, wedi’i ddilyn gan sesiynau cleient masnachol, gan ymgorffori astudiaethau achos ac asesiadau. Bydd y cwrs hwn yn darparu’r arbenigedd sydd ei angen i greu profiadau ymlaciol ac adfywiol i gleientiaid er mwyn gwella arfer presennol neu ddechrau gyrfa newydd.
Bydd gofyn i ddysgwyr wneud 60 o astudiaethau achos fel rhan o’r cwrs hwn, ac efallai y bydd angen cwblhau rhai ohonynt gartref.
- Therapi Cyflenwol Lefel 2, tylino'r corff neu gyfwerth
- Os o dan 19, Lefel 1 perthnasol neu ddau TGAU gradd D neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf
- Mae angen sgiliau cyfathrebu a chyflwyniad personol da
- Dylech fod â'r gallu corfforol i gwblhau elfennau ymarferol y cwrs hwn
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
Bydd y cwrs yn cwmpasu:
- Gwybodaeth am anatomeg, ffisioleg, a phatholeg ar gyfer Therapïau Cyflenwol (dau arholiad, dysgu o bell)
- Darparu Aromatherapi ar gyfer Therapïau Cyflenwol (dysgu wyneb yn wyneb)
- Ymarfer busnes ar gyfer Therapïau Cyflenwol (dysgu o bell)
- Egwyddorion ac ymarfer Therapïau Cyflenwol (dysgu o bell)
- Bwyta’n iach a lles ar gyfer y cleient therapi cyflenwol (dysgu wyneb yn wyneb)
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Arholiad ymarferol
- Arholiad ar-lein
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus byddech yn gallu ymarfer triniaethau Aromatherapi.
Efallai yr hoffech ystyried un arall o’n cyrsiau rhan-amser.
- Cit therapi penodol, y gallwch ei brynu ar-lein cyn i chi ddechrau'r cwrs
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
- Dim costau ychwanegol

Beth yw'r gofynion mynediad?
- Therapi Cyflenwol Lefel 2, tylino'r corff neu gyfwerth
- Os o dan 19, Lefel 1 perthnasol neu ddau TGAU gradd D neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf
- Mae angen sgiliau cyfathrebu a chyflwyniad personol da
- Dylech fod â'r gallu corfforol i gwblhau elfennau ymarferol y cwrs hwn
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y cwrs yn cwmpasu:
- Gwybodaeth am anatomeg, ffisioleg, a phatholeg ar gyfer Therapïau Cyflenwol (dau arholiad, dysgu o bell)
- Darparu Aromatherapi ar gyfer Therapïau Cyflenwol (dysgu wyneb yn wyneb)
- Ymarfer busnes ar gyfer Therapïau Cyflenwol (dysgu o bell)
- Egwyddorion ac ymarfer Therapïau Cyflenwol (dysgu o bell)
- Bwyta’n iach a lles ar gyfer y cleient therapi cyflenwol (dysgu wyneb yn wyneb)
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Arholiad ymarferol
- Arholiad ar-lein
Beth alla i ei wneud nesaf?
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus byddech yn gallu ymarfer triniaethau Aromatherapi.
Efallai yr hoffech ystyried un arall o’n cyrsiau rhan-amser.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Cit therapi penodol, y gallwch ei brynu ar-lein cyn i chi ddechrau'r cwrs
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim costau ychwanegol
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: | |
Duration: | 4 fis |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 12/02/2025