Os yw gwallt, harddwch, colur a chreu delwedd bersonol wych yn bwysig i chi, yna byddwch wrth eich bodd â’n cyrsiau trin gwallt a therapi harddwch. Gan gynnig amrywiaeth o gyrsiau llawn-amser a rhan-amser arbenigol yn y maes hwn, byddwch ar y trywydd iawn yn fuan i ennill cymwysterau a sgiliau a allai ganiatáu i chi ymarfer ledled y byd.

Gan weithio yn ein salonau masnachol chwaethus, mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i redeg eu busnesau eu hunain, ennill cyflogaeth mewn salonau, sbaon a chanolfannau harddwch blaenllaw ledled y wlad, ynghyd â gweithio ym maes teledu a theatr.

Gydag enw da iawn, mae ein holl gyrsiau’n cynnig digon o weithgareddau ac asesiadau ymarferol, wrth wneud y mwyaf o ddarlithwyr sydd â chyfoeth o brofiad yn y diwydiant gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am dueddiadau a thechnegau diwydiant.

Showing 1–12 of 30 results