Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Cymorth Cyntaf yn y Gwaith

Cymorth Cyntaf yn y Gwaith

Cymorth Cyntaf yn y Gwaith

Dyfarniad HABC Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf yn y Gweithle (RQF)

Mae hwn yn gwrs Cymorth Cyntaf yn y Gweithle achrededig llawn, yn unol â Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) 1981. Unwaith y byddwch wedi cymhwyso, gallwch gael eich defnyddio fel Swyddogion Cymorth Cyntaf yn y gweithle yn unol â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974.

SKU: 3204X7311
ID: N/A

£1,395.00

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at ddysgwyr sy’n dymuno bod yn swyddogion cymorth cyntaf yn y gweithle. Mae’r cymhwyster hwn yn bodloni’r gofynion ar gyfer hyfforddi swyddogion cymorth cyntaf yn y sefydliadau hynny sydd wedi nodi bod angen hyfforddi staff i’r lefel hon yn eu hasesiad o anghenion cymorth cyntaf.

Gellir addasu’r cwrs hwn i weddu i gynulleidfa benodol, er enghraifft, staff clerigol neu beirianneg. Mae’r cwrs Cymorth Cyntaf yn y Gwaith yn cael ei redeg dros dri diwrnod ac mae’n cynnwys sesiynau theori ac ymarferol.

Mae’r cwrs yn ymdrin â gwybodaeth fel rolau a chyfrifoldebau’r swyddog cymorth cyntaf, sut i asesu digwyddiad ac adnabod arwyddion a symptomau anafiadau a salwch. Mae’r cwrs hefyd yn ymdrin â sgiliau cymorth cyntaf mewn adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) a defnyddio diffibriliwr allanol awtomataidd (AED) a chynorthwyo claf sy’n dioddef o anaf difrifol a salwch fel anafiadau i’r frest, anafiadau i’r asgwrn cefn ac anaffylacsis.

Yn unol â’r canllawiau a ddarperir gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), mae’r cymhwyster yn cefnogi/cymeradwyo swyddogion cymorth cyntaf yn y gweithle am gyfnod o dair blynedd, ac wedi hynny bydd angen i ddysgwyr ailsefyll y cwrs. Felly, mae’r cymhwyster yn ddilys am dair blynedd o ddyddiad y dyfarniad. Yn ogystal â hyn, argymhellir bod dysgwyr yn diweddaru eu gwybodaeth yn flynyddol.

Group Rate courses are delivered at your venue on an agreed date for a fixed price. You can have a maximum of 12 staff per course and a minimum of two staff. The venue must be of a suitable size to deliver First Aid courses and public liability insurance must be in place.

  • Dim gofynion mynediad ffurfiol
  • Dylech fod â'r gallu corfforol i gwblhau elfennau ymarferol y cwrs hwn
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol

Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:

  • Cymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle
  • Cydnabod a Rheoli Salwch ac Anafiadau yn y Gweithle

Erbyn diwedd y cwrs bydd dysgwyr yn gallu:

  • Deall rôl a chyfrifoldebau swyddog cymorth cyntaf
  • Gallu asesu digwyddiad
  • Gallu rhoi cymorth cyntaf i anafedig nad yw’n ymateb
  • Gallu darparu cymorth cyntaf i berson anafedig:
    • sy’n tagu
    • gyda gwaedu allanol
    • gydag anafiadau a amheuir i esgyrn, cyhyrau a chymalau
    • ag amheuaeth o anafiadau i’r pen a’r asgwrn cefn
  • Gwybod sut i ddarparu cymorth cyntaf i berson anafedig:
    • sydd mewn sioc
    • gyda mân anafiadau
    • gydag amheuaeth o anafiadau i’r frest
    • gyda llosgiadau a sgaldiadau
    • ag anaf i’r llygad
    • gyda gwenwyn sydyn
    • ag anaffylacsis
    • gydag amheuaeth o salwch difrifol
  • Gallu cynnal arolwg eilaidd

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn efallai y byddwch am roi cynnig ar un arall o’n cyrsiau seiliedig ar waith.

  • Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

  • Dim costau ychwanegol

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

,

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 18/09/2023
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Cymorth Cyntaf yn y Gwaith
You're viewing: Cymorth Cyntaf yn y Gwaith £1,395.00
Add to cart
Shopping cart close