Peirianneg Gweithrediadau Proses
Peirianneg Gweithrediadau Proses
Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Peirianneg Gweithrediadau Proses
Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi sylfaen drylwyr mewn cysyniadau allweddol a sgiliau ymarferol ac mae wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion y rhai sy’n gweithio ar hyn o bryd neu’n gwneud cais i weithio ym maes peirianneg gweithrediadau.
Mae’r ffioedd fesul blwyddyn academaidd, yn amodol ar newid
£2,196
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae rhaglen y Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) yn cynnwys unedau peirianneg sy’n cynnig pwyslais cryf, sy’n gysylltiedig â’r sector, ar ddatblygu sgiliau ymarferol ochr yn ochr â datblygu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth angenrheidiol.
Mae’r rhaglen hon yn gymhwyster Addysg Uwch â ffocws galwedigaethol. Er mwyn ymgymryd â’r rhaglen astudio hon, yn ddelfrydol, bydd ymgeiswyr mewn cyflogaeth llawn-amser addas.
Mae’r cwrs hwn fel arfer yn rhedeg un diwrnod yr wythnos, dros 2 flynedd, gan ddechrau ym mis Medi.
Mae’r coleg yn gorff cysylltiedig i Brifysgol Cymru ac wedi’i ddynodi’n Sefydliad Technegol Prifysgol Cymru (STPC). Mae’n gweithio mewn partneriaeth â Choleg Sir Benfro, Choleg Sir Gâr, Coleg Ceredigion, Coleg Caerdydd a’r Fro a Grŵp Colegau NPTC i ddatblygu addysg dechnegol uwch a hyfforddiant ac arloesedd a arweinir gan gyflogwyr. Gan weithio o fewn strwythur cydffederal, caiff y rhwydwaith o Sefydliadau Technegol ei lywio gan anghenion cyflogwyr a’i nod yw hyrwyddo cyfle cyfartal ac annog cyfranogiad mewn addysg drydyddol.
Mae dysgwyr sy’n cymryd rhan mewn cyrsiau a ddarperir gan y coleg fel un o Sefydliadau Technegol Prifysgol Cymru yn derbyn dyfarniad a ddilysir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- GCSEs at grade C or above to include English Language/First Language Welsh and Mathematics/Numeracy
- 48 UCAS Tariff points from A-level or vocational qualification
- You will be expected to be in relevant job role
- Direct admission for applicants who have been out of full-time education for more than two years will be considered based on previous learning or experience
- Each application is considered on individual merit
- Entry may be subject to interview
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- 48 UCAS Tariff points from A-level or vocational qualification
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Mae’r modiwlau i’w hastudio yn cynnwys:
- Mathemateg Peirianneg
- Gwyddor Peirianneg
- Sgiliau Astudio Ymchwil a Chyflwyno
- Diogelu’r Amgylchedd a Systemau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy
- Gweithrediadau a Rheolaeth Proses Ddiwydiannol
- Cynnal a Chadw Offer a Gofal Asedau
- Systemau Diogelwch Proses
- Ymarfer Peirianneg Proses
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Continuous assessment during the course
- Practical examination
- Written examination
Beth alla i ei wneud nesaf?
Bydd cwblhau’r HNC yn llwyddiannus yn cymhwyso myfyrwyr i gael mynediad i gyrsiau Gradd Genedlaethol Uwch (HND)/gradd mewn pynciau cysylltiedig.
Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Stationery - you will be told about any specific items before you start the course
- Textbooks - you will be told about any specific items before you start the course
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Sut gallaf dalu am y cwrs hwn?
Dysgwch am y cyllid sydd ar gael i fyfyrwyr Addysg Uwch ar ein cyllid myfyrwyr dudalen.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael eich hepgor rhag talu ffioedd os ydych yn gyflogedig ac yn dilyn, neu’n bwriadu dilyn, rhaglen prentisiaeth uwch gyda Choleg Sir Benfro.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
| Lefel: | |
|---|---|
| Modd: |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf

