Mae’n bleser gan Goleg Sir Benfro gyhoeddi lansiad Academi Fforwm y Cogyddion yn y Coleg. Mae’r cogyddion gorau, Douglas Balish a Matt Waldron wedi cael eu penodi’n Noddwyr yr Academi a chafwyd dechreuad da iawn gyda’r sesiwn gyntaf yr wythnos hon.
Mae dosbarthiadau meistr wythnosol Academi Fforwm y Cogyddion yn cynnwys amrywiol gogyddion lleol ac arbenigwyr blaen tŷ yn dod i mewn i’r coleg i roi cwrs astudio cymhellol ac ysbrydoledig trwy gydol y flwyddyn academaidd, gan arwain at gyfleoedd profiad gwaith yn y busnesau sy’n cymryd rhan unwaith y bydd y cyfyngiadau’n cael eu codi.
Mae’r tîm addysgu yn y coleg yn falch iawn o groesawu’r cogyddion gwadd i’r coleg i gyfoethogi dysgu myfyrwyr.
Dywedodd Wendy Weber, Pennaeth Iechyd, Gofal Plant a Menter Fasnachol: “Rydyn ni’n falch o’n darpariaeth lletygarwch yng Ngholeg Sir Benfro, sydd wedi mynd o nerth i nerth dros nifer o flynyddoedd. Mae gweld ymadawyr ysgol yn ymuno â ni yn 16 oed ac yn ein gadael yn 18 neu 19 oed fel cogyddion hyfedr yn hynod o foddhaol. Mae cyflwyno Academi Fforwm y Cogydd eleni yn gwella profiad y dysgwr hyd yn oed yn fwy ac yn rhoi cyfle i staff a dysgwyr ddod yn fwy parod i’r diwydiant nag erioed o’r blaen ac ennill y sgiliau ychwanegol hynny y mae cyflogwyr eu heisiau. Rydyn ni’n edrych ymlaen at flwyddyn o dechnegau ac arferion newydd – a seigiau anhygoel yn cael eu gweini yn ein bwyty.”
Mae Academi Fforwm y Cogyddion o fudd i’r coleg, y myfyrwyr a chyflogwyr lleol. Y cydweithio hwn fydd yn ffynnu i galfaneiddio a chefnogi dyfodol y diwydiant lletygarwch. Cam gwirioneddol gadarnhaol i’r cyfeiriad cywir mewn cyfnod mor ansicr.
Mae pob cogydd sy’n cymryd rhan yn cefnogi Academi Fforwm y Cogyddion gant y cant ac yn edrych ymlaen at weithio gyda myfyrwyr yng Ngholeg Sir Benfro fel rhan o gynllun dysgu Academi Fforwm y Cogyddion. Ymhlith y cogyddion eraill sydd eisoes wedi ymuno â’r cynllun mae Deri Reed (The Warren), Matt Flowers (Salt Cellar) ac Alister Forrester (Lolfa Cofio). Hoffai’r coleg wahodd pob Pennaeth a Chogydd Gweithredol a hoffai wybod mwy am y prosiect i gysylltu.
Mae’r cogyddion yn dod i’r coleg bob wythnos ac yn cymryd dosbarth meistr tair awr i gyfoethogi dysgu’r myfyrwyr yn unol â’r pynciau y mae’n ofynnol iddynt eu dysgu i gyflawni eu cymhwyster. Coleg Sir Benfro yw’r unig goleg yng Ngorllewin Cymru i fod yn gweithio gydag Academi Fforwm y Cogyddion ac mae hyn yn ei wneud yn ddewis deniadol iawn i unrhyw berson ifanc sydd eisiau dysgu gan y cogyddion gorau un yn y diwydiant.
Ar yr un pryd â dysgu sgiliau newydd, technegau coginio a ryseitiau, mae’r myfyrwyr yn meithrin perthnasoedd gyda’r cogyddion gwadd a fydd yn eu helpu yn eu hymdrechion i ddod o hyd i waith wrth adael y coleg gan y bydd y cogyddion eisoes yn gyfarwydd iddynt. Mae llawer o ddysgwyr yn cael cynnig gwaith rhan amser tra’u bod dan yn y coleg. Maen hyn y neu gwneud yn fwy parod ar gyfer gwaith ac yn eu galluogi i gael profiad gwaith wrth astudio – sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill.
Mae Academi Fforwm y Cogyddion hefyd yn gweithredu yng Ngholeg Gorllewin Llundain, Coleg Manceinion, Coleg Caerfaddon a Choleg Gwent gyda mwy o golegau ar fin mabwysiadu’r rhaglen wych hon o gyfoethogi’r cwricwlwm yn ddiweddarach eleni. Mae Fforwm y Cogyddion yn gwasanaethu i bontio’r bwlch rhwng addysg a diwydiant, gan ysbrydoli cogyddion ifanc a gweithwyr proffesiynol blaen tŷ.
Dylai unrhyw gyflogwyr lletygarwch lleol (o fewn awr i Goleg Sir Benfro) sydd â diddordeb mewn cefnogi’r coleg a chynnig eu harbenigedd mewn addysgu fel rhan o Academi Fforwm y Cogyddion e-bostio rebecca@redcherry.uk.com