Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Prentisiaid Weldio yn Esgyn yn Rowndiau Terfynol Weldio Uwch

Ross Jones, Joel Blair & Cohen Lewis

Ar ddechrau’r flwyddyn cymerodd pedwar prentis weldio Coleg Sir Benfro ran yn Rowndiau Terfynol y Gystadleuaeth Weldio Uwch gan gipio’r gwobrau i gyd, yn fedalau aur, arian ac efydd.

Daeth 23 o gystadleuwyr o golegau ledled Cymru ynghyd i Goleg Castell-Nedd Port Talbot i brofi eu sgiliau. Gan barhau â hanes hir y Coleg o lwyddiant mewn cystadlaethau weldio, cipiodd y prentis Joel Blair y fedal aur, tra sicrhaodd Cohen Lewis y fedal arian a’r fedal efydd i Ross Jones. Enillodd Deriece Raimann a oedd hefyd yn gystadleuydd o Goleg Sir Benfro bedwerydd safle.

Cafodd myfyrwyr y dasg o weldio darnau prawf a gafodd eu barnu’n annibynnol gan arbenigwyr yn y diwydiant; pibell TIG dur carbon tair modfedd yn safle’r PC, ffiled dur gwrthstaen yn y safle PD, pibell MMA i blatio yn safle PB a weldiad ffiled MAG dur carbon yn y ffiled PF.

Dywedodd Joel, enillydd y fedal aur a phrentis gyda Rhyal Engineering, “Roedd y gystadleuaeth yn anodd ond fe wnes i fwynhau gweithio dan bwysau yn fawr. Mae’r cystadlaethau hyn yn help mawr i godi eich hyder ac ehangu eich gwybodaeth a’ch sgiliau. Mae’r staff yng Ngholeg Sir Benfro wedi bod mor gefnogol, yn enwedig Jo. Byddwn i’n argymell yn gryf cymryd rhan mewn unrhyw gystadlaethau os cewch y cyfle, mae nid yn unig yn edrych yn dda ar eich CV ond yn eich paratoi ar gyfer heriau posibl y byddwch yn eu hwynebu yn y byd gwaith.”

Ychwanegodd y darlithydd weldio Jo Bradshaw: “Mae cystadlaethau sgiliau yn llwyfan rhagorol i fyfyrwyr arddangos y sgiliau maen nhw’n eu dysgu o fewn eu crefftau. Rydw i mor falch o’r holl gystadleuwyr sy’n cymryd rhan, gan fy mod i’n gwybod pa mor galed maen nhw’n gweithio yn y cyfnod cyn y digwyddiadau hyn.

“Ro’n i mor gyffrous i ddarganfod ein bod ni wedi ennill y pedwar lle gorau allan o 23 o gystadleuwyr yn Rownd Derfynol Cymru gyfan – cyflawniad mor wych i bawb a gymerodd ran. Mae pob un o’r cystadleuwyr yn hynod angerddol am weldio a dysgu sgiliau newydd ac mae’n wirioneddol wych eu gweld yn gwneud cystal. Mae gyda ni ychydig o fisoedd cyffrous o’n blaenau nawr wrth i ni baratoi ar gyfer SkillWeld UK. Mae Joel, Cohen a Ross i gyd wedi’u halinio ag oedran, sy’n golygu os ydyn nhw’n sicrhau lle yn Rowndiau Terfynol y DU sydd â sgorau dros 65% maen nhw’n gymwys i gael eu dewis ar gyfer y Sgwad, i baratoi ar gyfer WorldSkills 2023. Hoffwn i hefyd ddiolch i’r cyflogwyr lleol am eu cefnogaeth barhaus gyda’r cystadlaethau.”

Shopping cart close