Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Ruby Drwodd i Rowndiau Terfynol Gemau Monolog y Byd

Ruby-Wilson

Mae Ruby Wilson, myfyriwr Lefel-A Coleg Sir Benfro wedi sicrhau lle yn Rowndiau Terfynol Gemau Monolog y Byd a gynhelir yn ddiweddarach y mis hwn.

Gyda’r pandemig byd-eang wedi cau setiau ffilm a theatrau ledled y byd, heidiodd dros dair mil o actorion i Gemau Monolog y Byd cyntaf. Dywedodd sylfaenydd y digwyddiad, Pete Malicki: “Mae’r cyffro yn amlwg. Rydw i wedi derbyn nifer fawr iawn o negeseuon e-bost gan actorion yn dweud wrtha i mai dyma oedd uchafbwynt eu blwyddyn. Mae’r gystadleuaeth yn mynd i fod yn ffyrnig!”

Cofrestrodd dros dair mil o gystadleuwyr ar gyfer y digwyddiad gydag ychydig llai na 200 yn cyrraedd y Rowndiau Terfynol Ffrydio Byw Rhanbarthol. Bydd llai na 70 nawr yn symud ymlaen i’r Rowndiau Terfynol Byd-eang, sy’n cynnwys chwe chategori wedi’u torri i lawr i grwpiau oedran, lefel profiad a hyd.

Bydd Ruby yn cystadlu yn erbyn y perfformwyr gorau o 20 gwlad yn y Categori Ieuenctid ddydd Sadwrn 24 Hydref.

Yn dilyn y Rowndiau Terfynol Rhanbarthol dywedodd Ruby: “Do’n i ddim yn gallu credu’r peth pan gafodd fy enw ei gyhoeddi fel un o’r enillwyr. Mae hyn yn fy rhoi gyferbyn â’r actorion gorau o bob cwr o’r byd. Dim pwysau, iawn?”

Ond nid yw’r pwysau yn stopio yno. Beirniadir y digwyddiad gan uwch arbenigwyr y diwydiant o bob cwr o’r byd gan gynnwys gwneuthurwyr ffilm, perfformwyr llwyddiannus a phenaethiaid ysgolion actio rhyngwladol. Mae bron i 100,000 o wylwyr eisoes wedi tiwnio i mewn i’r Cystadlaethau a’r Ffrydiau Byw Rhanbarthol.

Wrth siarad am y Rowndiau Terfynol Byd-eang dywedodd Ruby: “Mae’r fonalog dw i’n ei pherfformio yn ymwneud â’r dicter rydych chi’n ei deimlo ar ôl perthynas yn torri. Ysgrifennais e fy hun mewn gwirionedd gyda rhywfaint o help gan fy ffrind Euan Sinclair. Dw i’n gyffrous iawn er gwaethaf y pwysau a dydw i ddim yn gallu aros i gystadlu ar lwyfan y byd!”

Bydd Rowndiau Terfynol Byd-eang Gemau Monolog y Byd yn cael eu darlledu’n fyw ar 17eg, 18fed, 24ain a 25ain Hydref. Gallwch weld Ruby yn y Categori Ieuenctid ddydd Sadwrn 24 Hydref

Darllenwch fwy am y digwyddiad neu gwyliwch y digwyddiad yma: www.monologues.com.au/wmg

Shopping cart close