Mae gwybodaeth fwy manwl a dealltwriaeth o'ch pwnc yn golygu y byddwch chi'n gallu dod o hyd i atebion ac ymateb i broblemau a sefyllfaoedd cymhleth.

Beth sydd ei angen arnaf?
Cymhwyster ar Lefel 4
Gwiriwch wybodaeth y cwrs am ofynion mynediad penodol

Beth byddaf i'n ei gael?
Byddwch yn gorffen eich cwrs gyda gwybodaeth drylwyr o'ch pwnc, lefel uchel o arbenigedd a chymhwysedd a chymhwyster a fydd yn caniatáu i chi symud ymlaen i ennill gradd lawn os dymunwch.

Yn dangos canlyniad i gyd

  • Arweinyddiaeth ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

    Arweinyddiaeth ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

    £1,500.00

    Dangoswch fod gennych y sgiliau sydd eu hangen i gadw sefydliad darparu gofal i redeg yn esmwyth gyda’r Diploma mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

    Add to cart
  • Playwork Course

    Gofal Plant a Gwaith Chwarae

    Yn addas ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn amgylchedd Gofal Plant: Mae Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn addas ar gyfer y rhai sy’n gweithio gyda phlant o dan wyth oed a gwasanaethau plant y GIG 0-19 oed. Mae gwaith chwarae yn addas ar gyfer y rhai sy’n gweithio gyda phlant 4-16 oed fel clwb ar ôl ysgol, maes chwarae antur neu gynllun chwarae.

    Rydym yn cynnig Prentisiaethau ar Lefel 2 a 3 a phrentisiaethau Uwch ar Lefel 4 a 5:

    • Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
    • Lefel 2 Gwaith Chwarae
    • Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
    • Lefel 3 Gwaith Chwarae
    • Lefel 4 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
    • Lefel 5 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
    • Lefel 5 Gwaith Chwarae
    Darllen Mwy
  • Management Course

    Gweinyddu Busnes

    Mae’r cymwysterau hyn yn darparu’r sgiliau angenrheidiol i’r rhai sy’n gweithio mewn swydd oruchwylio neu reoli. Mae unedau cyffredin yn cynnwys cyfathrebu, perthnasoedd gwaith a pherfformiad a datblygiad personol.

    Darllen Mwy
  • Iechyd Clinigol

    Iechyd Clinigol

    Enillwch gydnabyddiaeth a dysgu, ymarfer a datblygu sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfa mewn ystod eang o lwybrau ar draws y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Rydym yn cynnig Prentisiaethau ar Lefel 2 a 3 a Phrentisiaethau Uwch ar Lefel 4 a 5.
    • Lefel 2 Cefnogaeth Gofal Iechyd Clinigol
    • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol
    • Lefel 3 Cefnogaeth Gofal Iechyd Clinigol
    • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)
    • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc)
    • Lefel 4 Iechyd a Gofal Cymdeithasol
    • Lefel 5 Iechyd a Gofal Cymdeithasol

    Ar ôl cwblhau Prentisiaeth Uwch (cyfwerth â HNC neu HND), fe’ch gwahoddir i fynychu Seremoni Raddio’r Coleg yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

    Darllen Mwy
  • envrionment

    Rheolaeth Amgylcheddol – Ystafell Ddosbarth Rithwir

    £3,234.00

    IEMA yw’r corff proffesiynol ar gyfer pawb sy’n gweithio ym maes yr amgylchedd a chynaliadwyedd. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i wneud gwahaniaeth cadarnhaol fel ymarferydd cynaliadwyedd. Mae’r cwrs yn berffaith i unrhyw un sy’n dymuno uwchraddio eu haelodaeth IEMA i Lefel Ymarferydd (PIEMA) ac Ymarferydd Amgylcheddol Cofrestredig (REnvP).

    Darllen Mwy