Rheolaeth Amgylcheddol

Tystysgrif Sylfaen IEMA mewn Rheolaeth Amgylcheddol
Mae’r ymgyrch tuag at fusnes cynaliadwy wedi agor byd hollol newydd o gyfleoedd a Thystysgrif Sylfaen IEMA mewn Rheolaeth Amgylcheddol yw eich ffordd i mewn.
ID: N/A
£596.00
Out of stock
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae Tystysgrif Sylfaen IEMA ar gyfer unrhyw un sydd am gael effaith mewn rôl amgylchedd neu gynaliadwyedd. Mae’n canolbwyntio ar reolaeth amgylcheddol felly mae’n berffaith os ydych chi’n cychwyn arni, yn gyfrifol am gasglu a choladu data amgylcheddol neu gynaliadwyedd hyd at ddarparu gwiriadau rheolaidd ar fesurau deddfwriaethol neu atal llygredd.
Bydd yn datblygu’r sgiliau rheoli hanfodol i helpu’ch busnes a’ch cymuned i ddod yn fwy cynaliadwy dros 40 awr. Byddwch yn ennill eich aelodaeth Cyswllt (AIEMA) gydag IEMA.
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm Central yn ystod oriau gwaith, ar 01437 753 445 / 753 320 neu unrhyw bryd drwy e-bost central@pembrokeshire.ac.uk
- Dim gofynion mynediad ffurfiol
Elfen 1: Egwyddorion Amgylcheddol Craidd
- Y prif gylchredau naturiol
- Gwasanaethau ecosystem
- Bioamrywiaeth a sefydlogrwydd ecolegol
- Effaith ymyrraeth ddynol ar gylchredau naturiol a systemau ecolegol
- Ffynonellau, llwybrau a derbynyddion llygredd
- Hinsawdd
Elfen 2: Cynaliadwyedd a mega-dueddiadau
- Mega-dueddiadau
- Datblygiad cynaliadwy a chynaliadwyedd
- Egwyddorion busnes cynaliadwyedd a llywodraethu corfforaethol
Elfen 3: Polisi a deddfwriaeth
- Egwyddorion allweddol polisi amgylcheddol
- Offerynnau polisi amgylcheddol allweddol
- Cefndir deddfwriaeth amgylcheddol
- Enghreifftiau o gyfraith droseddol
- Rhanddeiliaid a rôl rheolyddion
Elfen 4: Systemau Rheoli Amgylcheddol
- Cyflwyniad i systemau rheoli amgylcheddol
- Elfennau allweddol ISO 14001
Elfen 5: Gwerthuso perfformiad
- Rheoli data
- Monitro perfformiad
- Archwiliadau amgylcheddol
Elfen 6: Offer rheoli ac asesu ychwanegol
- Offer Rheoli ac Asesu Ychwanegol
Elfen 7: Cyfathrebu a rheoli newid
- Cyfathrebu
- Adrodd corfforaethol
- Hawliadau gwyrdd
- Rheoli newid
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
- Amherthnasol
Mae Tystysgrif Sylfaen IEMA yn borth perffaith i gwrs Tystysgrif IEMA mewn Rheolaeth Amgylcheddol.
- Bydd angen i chi ddod â'ch dyfais/gliniadur eich hun ar gyfer y cwrs hwn, cliciwch yma i ddarganfod mwy
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
- Dim costau ychwanegol
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth Ychwanegol
Additional information
Lefel: | |
---|---|
Modd: |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 18/09/2023