Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Rheolaeth Amgylcheddol – Ystafell Ddosbarth Rithwir

Rheolaeth Amgylcheddol – Ystafell Ddosbarth Rithwir

envrionment

Tystysgrif IEMA mewn Rheolaeth Amgylcheddol

IEMA yw’r corff proffesiynol ar gyfer pawb sy’n gweithio ym maes yr amgylchedd a chynaliadwyedd. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i wneud gwahaniaeth cadarnhaol fel ymarferydd cynaliadwyedd. Mae’r cwrs yn berffaith i unrhyw un sy’n dymuno uwchraddio eu haelodaeth IEMA i Lefel Ymarferydd (PIEMA) ac Ymarferydd Amgylcheddol Cofrestredig (REnvP).

£3,234.00

Out of stock

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae maes llafur Cwrs Tystysgrif IEMA mewn Rheolaeth Amgylcheddol yn ymdrin ag ystod eang o faterion amgylcheddol a chynaliadwyedd i’ch galluogi i ddod yn ymarferydd a all ysgogi newid mewn sefydliadau. Mabwysiadir ymagwedd ymarferol i alluogi sefydliadau i wella eu perfformiad amgylcheddol a lleihau eu heffeithiau, yn strategol ac yn weithredol.

Bydd angen lefel sylfaen o wybodaeth amgylcheddol a/neu gynaliadwyedd arnoch. Argymhellir eich bod wedi cyflawni’r Dystysgrif Sylfaen IEMA mewn Rheolaeth Amgylcheddol neu gwrs tebyg, neu eich bod wedi ennill y wybodaeth a’r sgiliau cyfatebol trwy brofiad gwaith.

Addysgir y cwrs hwn trwy ystafell ddosbarth rithwir.


Unrhyw gwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm Central yn ystod oriau gwaith, ar 01437 753 445 / 01437 753 320 neu unrhyw bryd drwy e-bost central@colegsirbenfro.ac.uk

  • Bydd disgwyl i chi fod wedi cwblhau'r lefel flaenorol yn llwyddiannus yn y maes pwnc hwn neu debyg

Wedi’u haddysgu drwy ystafell ddosbarth rithwir, mae’r unedau’n cynnwys:

Hanfodion cynaliadwyedd, busnes a llywodraethu
Mae’r modiwl hwn yn egluro goblygiadau tueddiadau byd-eang i’r amgylchedd, i gymdeithas, i’r economi ac i sefydliadau. Mae’r modiwl hefyd yn egluro rôl yr ymarferydd Amgylchedd/Cynaliadwyedd wrth oresgyn yr heriau hyn ac yn edrych ar fodelau llywodraethu busnes cynaliadwy, eu hegwyddorion sylfaenol a’u perthynas â sefydliadau, cynhyrchion a gwasanaethau.

Egwyddorion, polisi a deddfwriaeth amgylcheddol

Mae’r modiwl yn egluro egwyddorion amgylcheddol a’u perthynas â threfniadaeth, cynhyrchion a gwasanaethau. Mae’r modiwl hwn hefyd yn egluro polisi a deddfwriaeth arwyddocaol a goblygiadau i sefydliadau, cynhyrchion a gwasanaethau.

Rheolaeth amgylcheddol, offer asesu a sgiliau
Mae’r modiwl yn egluro’r offer, technegau, systemau ac arferion a ddefnyddir i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau cynaliadwy a gwella perfformiad cynaliadwyedd. Mae’r modiwl hefyd yn edrych ar rôl arloesi ac wrth ddatblygu’r cynhyrchion a’r gwasanaethau hynny yn ogystal â sut i gasglu a dadansoddi data yn feirniadol ac adrodd ar wybodaeth. Mae’n ymdrin â sut i nodi problemau ac asesu cyfleoedd sy’n cyflwyno arloesedd a phennu’r ffyrdd mwyaf effeithiol o gyfleu’r canfyddiadau. Mae hefyd yn dangos sut i gymhwyso neu weithredu offer, technegau, systemau ac arferion i nodi cyfleoedd a risgiau, yn ogystal â gweithredu newid a thrawsnewid.

Asesir y cwrs Tystysgrif IEMA mewn Rheolaeth Amgylcheddol trwy dri aseiniad yn seiliedig ar wybodaeth, un ar ôl pob wythnos cwrs. Mae hyn yn golygu bod dysgwyr yn cael eu hasesu yn ystod y cwrs yn hytrach nag ar ei ôl. Rhaid i ddysgwyr basio pob un o’r tri aseiniad i gofrestru ar gyfer asesiad Aelodaeth Ymarferydd IEMA (PIEMA). Oddi yno, bydd dysgwyr yn cymryd Asesiad Cymhwysedd yn seiliedig ar brofiad gwaith a byddant yn derbyn eu marciau tua chwe deg diwrnod ar ôl eu cyflwyno.

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Portffolio o dystiolaeth
  • Bydd angen i chi ddod â'ch dyfais/gliniadur eich hun ar gyfer y cwrs hwn, cliciwch yma i ddarganfod mwy

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

  • Dim costau ychwanegol

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 22/04/2024
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close