Crochenwaith: Cyflwyniad i Gerflunio

Crochenwaith: Cyflwyniad i Gerflunio
Crochenwaith: Cyflwyniad i Gerflunio
Mae’r cwrs yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn defnyddio clai fel cyfrwng ar gyfer gwneud cerameg gerfluniol. Os ydych chi erioed wedi bod eisiau rhoi cynnig ar greu ffurfiau addurniadol, cerfiedig sydd wedi’u ffurfio gyda chlai ac yn caru’r syniad o wneud eich darn celf cerfluniol eich hun, yna’r cwrs hwn yw’r un i chi.
£210.00
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Dyma gyflwyniad i dechnegau cerflunio mewn clai.
Os ydych chi erioed wedi bod eisiau gwybod sut i greu ffurf tri dimensiwn gan ddefnyddio clai trwy archwilio ystod o dechnegau adeiladu, modelu a cherfio, yna bydd y cwrs hwn yn dangos i chi sut. Gan weithio trwy’r prosesau adeiladu sylfaenol, bydd y sesiynau’n eich arwain tuag at greu darn unigol o gerflun sy’n ymgorffori unrhyw themâu neu syniadau sydd o ddiddordeb i chi.
Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, dim ond diddordeb brwd mewn bod yn greadigol a bod yn agored i archwilio syniadau a phrosesau newydd. Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar ystod o ddulliau ‘adeiladu â llaw’, gyda’r nod o gynhyrchu darn cerfluniol terfynol.
Mae’r cwrs wyth wythnos hwn yn rhedeg ar ddydd Mawrth neu ddydd Iau, 18:00 – 20:00, Prif Gampws Coleg Sir Benfro.
Bydd y cwrs hwn ar gael yn ystod blwyddyn academaidd 2025/26. Dyddiadau ar gael nawr i archebu a sicrhau lle.
Cadwch lygad ar ein tudalen Facebook am gyhoeddiadau
- Dim gofynion mynediad ffurfiol
- Rhaid i'r dysgwr fod dros 18 oed
Nod y cwrs yw cwmpasu ystod o dechnegau ‘cerflunio’, gan gwmpasu prosesau fel pinsio, coilio, adeiladu slabiau, modelu, cerflunio, cerfio, gwaith cefnogi yn ystod y broses wneud a mathau o glai addas.
Bydd pob sesiwn yn archwilio proses benodol yn dilyn arddangosiad, a fydd wedyn yn caniatáu ichi arbrofi gyda dulliau a syniadau. Bydd sesiynau’n cael eu strwythuro tuag at ffurf gerfluniol derfynol eich hun, a fydd yn cynnwys datblygu syniad, casglu cyfeiriadau a modelau arbrofol rhagarweiniol ar raddfa fach.
Bydd y sesiynau hefyd yn cwmpasu deall ffurf a chyfrannedd, offer cerflunio hanfodol a’u defnyddiau, cynllunio a dylunio eich cerflun a dulliau adeiladu diogel.
Bydd y cwrs yn rhoi dealltwriaeth i chi o wahanol ddulliau adeiladu, ymarfer stiwdio gelf diogel a mewnwelediad i ddatblygu syniad cychwynnol, hyd at ganlyniad wedi’i wireddu.
Bydd y cwrs wyth wythnos hwn nid yn unig yn caniatáu ichi ddatblygu eich sgiliau ymarferol ond bydd hefyd yn hyrwyddo eich creadigrwydd eich hun trwy wneud a thrafod syniadau posibl gydag eraill.
Byddwch yn derbyn tystysgrif cwblhau Coleg ar ddiwedd y cwrs.
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
- Amherthnasol
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn efallai y byddwch am roi cynnig ar un arall o’n cyrsiau cymunedol.
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Deunyddiau celf - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
- Dim costau ychwanegol

Beth yw'r gofynion mynediad?
- Dim gofynion mynediad ffurfiol
- Rhaid i'r dysgwr fod dros 18 oed
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Nod y cwrs yw cwmpasu ystod o dechnegau ‘cerflunio’, gan gwmpasu prosesau fel pinsio, coilio, adeiladu slabiau, modelu, cerflunio, cerfio, gwaith cefnogi yn ystod y broses wneud a mathau o glai addas.
Bydd pob sesiwn yn archwilio proses benodol yn dilyn arddangosiad, a fydd wedyn yn caniatáu ichi arbrofi gyda dulliau a syniadau. Bydd sesiynau’n cael eu strwythuro tuag at ffurf gerfluniol derfynol eich hun, a fydd yn cynnwys datblygu syniad, casglu cyfeiriadau a modelau arbrofol rhagarweiniol ar raddfa fach.
Bydd y sesiynau hefyd yn cwmpasu deall ffurf a chyfrannedd, offer cerflunio hanfodol a’u defnyddiau, cynllunio a dylunio eich cerflun a dulliau adeiladu diogel.
Bydd y cwrs yn rhoi dealltwriaeth i chi o wahanol ddulliau adeiladu, ymarfer stiwdio gelf diogel a mewnwelediad i ddatblygu syniad cychwynnol, hyd at ganlyniad wedi’i wireddu.
Bydd y cwrs wyth wythnos hwn nid yn unig yn caniatáu ichi ddatblygu eich sgiliau ymarferol ond bydd hefyd yn hyrwyddo eich creadigrwydd eich hun trwy wneud a thrafod syniadau posibl gydag eraill.
Byddwch yn derbyn tystysgrif cwblhau Coleg ar ddiwedd y cwrs.
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Amherthnasol
Beth alla i ei wneud nesaf?
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn efallai y byddwch am roi cynnig ar un arall o’n cyrsiau cymunedol.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Deunyddiau celf - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim costau ychwanegol
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Dyddiad y Cwrs: | 30 Medi 2025 |
---|---|
Modd: | |
Duration: | 2 fis |