Gall astudio ein rhaglenni celfyddydau fod yn hynod werth chweil ac yn gymaint o hwyl! Fe’ch dysgir gan dîm o ddarlithwyr sydd â phrofiad go iawn yn y diwydiant ac sydd â mynediad at gyfres wych o weithdai, cyfleusterau ac adnoddau sy’n eich galluogi i archwilio ac arbrofi. Boed hynny yn y stiwdio theatr a dawns i berfformwyr, stiwdios recordio i gerddorion, ystafelloedd Mac ar gyfer dylunwyr neu stiwdio ac ystafell dywyll i ffotograffwyr, mae rhywbeth at ddant pawb.
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach yn eich dewis faes ac yn cael nifer o gyfleoedd i roi eich gwybodaeth ar waith. Mae arddangosfeydd diwedd blwyddyn a pherfformiadau byw yn rhoi cyfle i chi arddangos eich talent, cyn symud ymlaen i gyflogaeth neu ddilyn cyn-fyfyrwyr i rai o brifysgolion creadigol gorau’r DU.
Os oes gennych angerdd ac ymroddiad, dewch i ymuno â ni i barhau â’ch taith greadigol.
Showing 1–12 of 26 results