Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Cymorth Cyntaf – Pediatrig

Cymorth Cyntaf – Pediatrig

Cymorth Cyntaf - Pediatrig

Dyfarniad HABC Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf Pediatrig (RQF)

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr fel rhieni a pherthnasau, staff cyn-ysgol neu feithrinfa, gwirfoddolwyr grwpiau plant bach, gwarchodwyr plant a nanis, au pair a rhieni maeth, neu’r rhai sy’n gyfrifol am ofalu am fabanod a phlant.

£140.00

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at unigolion sy’n dymuno bod yn swyddogion cymorth cyntaf pediatrig yn y gweithle gyda chyfrifoldeb am les babanod a phlant. Mae’r cymhwyster hwn wedi’i fwriadu ar gyfer dysgwyr sydd eisoes yn gweithio neu’n paratoi i weithio mewn diwydiant.

Mae’r cymhwyster yn ddilys am gyfnod o dair blynedd, ac ar ôl hynny bydd angen i ddysgwyr ailsefyll y cwrs. Yn ogystal â hyn, argymhellir bod dysgwyr yn diweddaru eu gwybodaeth yn flynyddol.

Mae’r cwrs pythefnos hwn fel arfer yn rhedeg ar ddydd Sadwrn, 09:00 – 16:00.

  • No formal entry requirements
  • You should be physically capable of completing the practical elements of this course
  • Entry is subject to attending a course information session or informal interview
  • Learners must be at least 16 years old

Mae’r pynciau’n cynnwys rôl a chyfrifoldebau’r swyddog cymorth cyntaf pediatrig a darparu cymorth cyntaf i faban neu blentyn nad yw’n ymateb. Mae’r cymhwyster hefyd yn ymdrin â sut i roi cymorth cyntaf i faban neu blentyn ag anafiadau i’r pen a’r asgwrn cefn, sy’n tagu neu’n dioddef o anaffylacsis.

Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:

  • Cymorth Cyntaf Pediatrig Brys
  • Rheoli salwch, anafiadau ac argyfyngau pediatrig

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Continuous assessment during the course
  • Written examination

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn efallai y byddwch am roi cynnig ar un arall o’n cyrsiau seiliedig ar waith.

  • Practical/comfortable clothing for parts of the course

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

  • No additional costs

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

,

Dyddiad y cwrs:

28 Ionawr a 04 Chwefror 2023

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 25/08/2023
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Cymorth Cyntaf - Pediatrig
You're viewing: Cymorth Cyntaf – Pediatrig £140.00
Select options
Shopping cart close