Gwniadwaith

Gwniadwaith
Eisiau dysgu sut i wnio neu wella’ch sgiliau a’ch gwybodaeth? Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i hanfodion gwniadwaith.
£100.00
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Byddwn yn eich cyflwyno i lawer iawn o sgiliau y bydd angen i chi eu gwybod wrth i chi symud ymhellach i fyd gwnïo dilledyn. Gan weithio’ch ffordd drwy’r cwrs hwn byddwch yn adeiladu sylfaen gadarn mewn sgiliau gwnïo a fydd yn caniatáu i chi symud ymlaen yn hyderus a chymhwyso popeth rydych wedi’i ddysgu i bron unrhyw batrwm yr hoffech roi cynnig arno.
Bydd angen i chi ddod â phecyn gwnïo sylfaenol gyda chi ond os nad oes gennych chi rai i ddechrau, dewch draw i’r wers gyntaf a bydd y tiwtor yn eich helpu o’r fan honno. Mae croeso i chi ddod ag unrhyw brosiectau yr ydych wedi bod yn gweithio arnynt gartref hefyd.
Mae’r cwrs wyth wythnos hwn fel arfer yn rhedeg ar Nos Mercher, 18:00 – 20:00, ar Brif Gampws Coleg Sir Benfro.
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm cyrsiau cymunedol, yn ystod oriau gwaith, ar 01437 753 490 neu unrhyw bryd drwy e-bost cymunedol@colegsirbenfro.ac.uk
- Dim gofynion mynediad ffurfiol
- Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf
Byddwch yn dysgu:
- sut i ddefnyddio peiriant gwnïo a haearn smwddio i gael gorffeniad glân a manwl gywir
- sut i gymryd mesuriadau’n gywir
- sut i ddewis a darllen patrymau
- sut i ddewis ffabrig
- sut i dorri dilledyn allan
- sut i gael ffitiad cytbwys ar y corff
- gorffen y dilledyn i’r safonau uchaf posibl
Gallwch ddatblygu ar eich cyflymder eich hun a bydd y tiwtor yn eich cefnogi i ddysgu technegau newydd fel gosod y patrwm, ychwanegu wynebau a rhyngwynebu, dartiau a sipiau.
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
- Amherthnasol
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn efallai y byddwch am roi cynnig ar un arall o’n cyrsiau cymunedol.
- Deunyddiau celf - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
- Yn ystod y cwrs bydd costau ychwanegol ar gyfer nwyddau traul
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Dim gofynion mynediad ffurfiol
- Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Byddwch yn dysgu:
- sut i ddefnyddio peiriant gwnïo a haearn smwddio i gael gorffeniad glân a manwl gywir
- sut i gymryd mesuriadau’n gywir
- sut i ddewis a darllen patrymau
- sut i ddewis ffabrig
- sut i dorri dilledyn allan
- sut i gael ffitiad cytbwys ar y corff
- gorffen y dilledyn i’r safonau uchaf posibl
Gallwch ddatblygu ar eich cyflymder eich hun a bydd y tiwtor yn eich cefnogi i ddysgu technegau newydd fel gosod y patrwm, ychwanegu wynebau a rhyngwynebu, dartiau a sipiau.
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Amherthnasol
Beth alla i ei wneud nesaf?
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn efallai y byddwch am roi cynnig ar un arall o’n cyrsiau cymunedol.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunyddiau celf - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Yn ystod y cwrs bydd costau ychwanegol ar gyfer nwyddau traul
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Modd: | |
---|---|
Dyddiad y Cwrs: | 03 Mai 2023, 04 Hydref 2023, Waiting List |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 19/09/2023