Ffotograffiaeth Ddigidol – Dechreuwyr
Ffotograffiaeth Ddigidol – Dechreuwyr
Erbyn hyn mae gan y rhan fwyaf o bobl gamera digidol ond faint ohonom sy’n gwybod sut i’w defnyddio?
SKU: 3204X7551
MEYSYDD: Celfyddydau, Cymunedol
DYSGWYR: Archebwch Nawr, Dysgwyr sy’n Oedolion
ID: N/A
£110.00
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae yna lawer o osodiadau a nodweddion a fydd yn helpu i wella’ch ffotograffau. Bydd y cwrs hwn hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad i chi ar y grefft o dynnu lluniau.
Bob wythnos, byddwch yn gweithio tuag at adeiladu portffolio o luniau y gellid eu harddangos ar ddiwedd y cwrs.
Cynhelir y cwrs wyth wythnos hwn fel arfer ar Nos Fawrth, 18:00 – 20:00, ar Brif Gampws Coleg Sir Benfro.
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm cyrsiau cymunedol, yn ystod oriau gwaith, ar 01437 753 139 neu unrhyw bryd drwy e-bost community@pembrokeshire.ac.uk
- Dim gofynion mynediad ffurfiol
Bydd y cwrs yn datblygu eich sgiliau technegol a gweledol wrth i chi ddysgu egwyddorion ffotograffiaeth ddigidol.
Mae gweithdai yn cynnwys y pethau sylfaenol fel sut i ddal eich camera i ddefnyddio agorfa a chyflymder caead, cydbwysedd gwyn, cyfansoddiad a mesuryddion.
Mae cyfres o aseiniadau ymarferol wythnosol yn eich galluogi i ymarfer y sgiliau rydych chi’n eu dysgu.
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
- Amherthnasol
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn efallai y byddwch am roi cynnig ar un arall o’n cyrsiau cymunedol.
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
- Dim costau ychwanegol
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Modd: | |
---|---|
Dyddiad y Cwrs: | 28 Medi 2023, 18 Ionawr 2024 |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 19/09/2023