Cost y cwrs:
Nwy: Hyfforddiant Gloywi Ailasesu – 2 Ddiwrnod

Nwy: Hyfforddiant Gloywi Ailasesu – 2 Ddiwrnod
Hyfforddiant deudydd, ddim yn orfodol ond yn cael ei argymell oherwydd newidiadau yn y diwydiant cyn i chi gwblhau eich ailasesiad.
SKU: 24894
MEYSYDD: Adeiladu a Chrefftau, Ynni
DYSGWYR: Datblygu Staff, Dysgwyr sy'n Oedolion
ID: N/A
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Efallai y bydd angen y cwrs hyfforddi gloywi deuddydd hwn gan BPEC os ydych yn ystyried ehangu cwmpas. Wedi’i gynllunio i helpu peirianwyr nwy a hyfforddwyd yn flaenorol i ddiweddaru eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth bresennol o nwy naturiol domestig i fodloni gofynion asesu craidd ACS.
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n Canolfan Ynni ar 01437 753 436 neu drwy e-bost canolfanynni@colegsirbenfro.ac.uk
Beth yw'r gofynion mynediad?
Rhaid i ddysgwyr fod wedi cymhwyso ar hyn o bryd mewn Diogelwch Nwy Naturiol Domestig Craidd (CCN1) neu Ddiogelwch Nwy Masnachol Craidd (COCN1).
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Diweddaru’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth bresennol sydd eu hangen i weithio’n gymwys yn y diwydiant nwy naturiol domestig.
Bydd yn cynnwys:
- Deddfwriaeth
- Sefyllfaoedd anniogel
- Hylosgi
- Mesuryddion
- Pwysau a llif nwy
- Gosod pibellau domestig
- Profi tyndra
- Puro
- Ffliw
- Awyru
- Rheolaethau nwy domestig
- Defnyddio dadansoddwr hylosgi electronig
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Amherthnasol
Beth alla i ei wneud nesaf?
Ar ôl cwblhau hyfforddiant gloywi bydd dysgwyr yn barod i wneud yr asesiad nwy ACS perthnasol.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Copïau o ddysgu blaenorol a/neu gymwysterau
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim costau ychwanegol
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.