Gall cymhwyster mewn adeiladu fod y garreg gamu sydd ei hangen arnoch i gael gwaith mewn nifer o grefftau adeiladu ledled y byd. Mae’r galw mawr am swyddi yn y diwydiant hwn yn tyfu ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu sylfaen gadarn o wybodaeth adeiladu i’n myfyrwyr. Yn y Coleg rydym yn cynnig nifer o gyrsiau i ateb y galw hwnnw gan gynnwys crefftau adeiladu ymarferol i gyrsiau lefel uwch sydd wedi’u hanelu at y rheini sydd am ddilyn rolau rheoli neu yrfaoedd mewn proffesiynau fel peirianneg sifil neu bensaernïaeth.
Gyda darlithwyr profiadol, canolfan adeiladu gwerth £3.1m, ac ystod helaeth o offer modern, rydym wedi creu amgylchedd hyfforddi rhagorol sy’n berffaith ar gyfer ymadawyr ysgol, pobl y crefftau a gweithwyr proffesiynol sydd am wella eu sgiliau a’u cymwysterau.
Showing 1–12 of 71 results