Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Mynediad i Therapïau Esthetig

Mynediad i Therapïau Esthetig

Client having a facial treatment

VTCT (ITEC) Tystysgrif Lefel 3 mewn Mynediad i Therapïau Esthetig

Ymunwch â’r cymhwyster NEWYDD SBON hwn yn y therapïau Estheteg a ddyluniwyd ar gyfer y rhai heb brofiad blaenorol.

£400.00

Out of stock

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae estheteg yn driniaethau harddwch nad ydynt yn llawfeddygol fel adnewyddu croen, tynnu gwallt a thriniaethau ysgafn sydd i gyd yn fusnes mawr yn y diwydiant harddwch. Manteisio ar ein cyfleusterau hyfforddi modern sydd â’r holl gyfarpar angenrheidiol a dysgu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant sydd ag arbenigedd helaeth yn y byd go iawn.

Mae’r cwrs Mynediad i Estheteg wedi’i ddatblygu ar gyfer dysgwyr heb unrhyw brofiad na chymwysterau blaenorol mewn therapi harddwch a hoffai fynd ymlaen i astudio Estheteg ar lefelau uwch; mae wedi’i gynllunio i ddarparu’r wybodaeth greiddiol sydd ei hangen i ddilyn cyrsiau Lefel 4 ac ymarfer yn ddiogel.

Dysgwch am anatomeg, ffisioleg a phatholeg a gwyddoniaeth drydanol yn ogystal â dadansoddi croen a phrotocolau triniaeth ymarfer diogel ar gyfer gofal croen yr wyneb. Bydd unedau mewn gofynion iechyd a diogelwch yn ogystal â deall sut i ymgynghori â chleientiaid, a darparu ôl-ofal perthnasol yn cael eu cynnwys.

Sylwer – trefnir cyfweliadau cyn dyddiad cychwyn y cwrs.

  • Dau TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf yn ddelfrydol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
  • Rhaid i'r dysgwr fod dros 19 oed

Bydd y cwrs yn cwmpasu:

  • Arholiad theori
  • Dadansoddi croen a gofal croen yr wyneb
  • Ymgynghori a gofal cleientiaid
  • Anatomeg, ffisioleg a phatholeg
  • Gwyddoniaeth drydanol
  • Cynnal Iechyd a Diogelwch yn y salon

Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Asesiad mewnol
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Arholiad ymarferol
  • Arholiad ar-lein

Cael mynediad at astudiaeth ychwanegol o driniaethau therapi uwch ar Lefel 4 ac uwch mewn darparwyr hyfforddiant eraill.

  • Gwisg, y gallwch ei phrynu ar-lein cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.

Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close