Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Nwy: Offer Coginio

Nwy: Offer Coginio

Gas Cooker Training

Asesiad Diogelwch Offer Coginio Nwy Domestig BPEC (CKR1)

Os ydych chi yn y sector Nwy ac eisiau ymestyn eich ystod o sgiliau, efallai mai hwn yw’r cwrs i chi!

SKU: 01383
ID: N/A

Cost y cwrs:

£255.00

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cwrs asesu undydd hwn wedi’i gynllunio i brofi cymhwysedd diogelwch nwy gweithiwr mewn gwaith nwy domestig trwy asesiad ymarferol o wybodaeth a dealltwriaeth.

Mae’r mathau o offer a gwmpesir gan CKR1 yn cynnwys:

  • Poptai sy’n sefyll ar eu pen eu hunain a ‘sleidio i mewn’
  • Platiau poeth wedi ‘adeiladu i mewn’
  • Ffyrnau ac unedau gril ‘wedi’u hadeiladu i mewn/o dan’

Unrhyw gwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n Canolfan Ynni ar 01437 753 436, drwy e-bost canolfanynni@colegsirbenfro.ac.uk neu drwy’r ffurflen gais am alwad yn ôl isod.

Rhaid i chi feddu ar Ddiogelwch Nwy Craidd Domestig (CCN1).

Gall yr asesiad hwn gael ei gwblhau gan beiriannydd nwy masnachol sy’n dal craidd masnachol, lle mae offer coginio wedi’i leoli mewn amgylchedd masnachol. Yn yr achos hwn, gallai’r peiriannydd arlwyo sy’n dal CCCN1 wneud CKR1 heb CCN1.

Mae’r asesiad hwn yn cwmpasu gwaith nwy ar bob offer coginio nwy, gan gynnwys gosod, comisiynu, cyfnewid, datgysylltu, gwasanaethu, rhoi sylw i achosion o dorri i lawr ac atgyweiriadau.

Ar gyfer asesiad cychwynnol:

  • Rhaid i beirianwyr ddangos eu bod yn gallu gosod a chomisiynu popty nwy annibynnol yn ddiogel, ac egluro ei weithrediad diogel.
  • Efallai y bydd yr asesiad yn ei gwneud yn ofynnol i’r peiriannydd wasanaethu offer coginio, a nodi unrhyw ddiffygion.

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
  • Arholiad ymarferol
  • Arholiad ysgrifenedig

Following completion of this course you might want to try another one of our Energy Centre courses.

  • Un llun maint pasbort (os nad yw wedi'i gyflwyno eisoes)
  • ID ffotograffig (Pasbort neu Drwydded Yrru)
  • Copïau o ddysgu blaenorol a/neu gymwysterau

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.

  • Dim costau ychwanegol

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.

Rhowch rai manylion isod i ofyn am alwad yn ôl:

Cyfryngau Cymdeithasol

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 07/10/2024
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Gas Cooker Training
You're viewing: Nwy: Offer Coginio £255.00
Add to cart
Shopping cart close