Olew: Peiriannau Jet Pwysedd

Olew: Peiriannau Jet Pwysedd
OFTEC Gwasanaethu a chomisiynu jet pwysau un cam (OFT10-101)
Mae’r cwrs hwn ar gyfer technegwyr sy’n dymuno gwasanaethu a chomisiynu offer jet pwysedd.
SKU: 12358
MEYSYDD: Adeiladu a Chrefftau, Ynni
DYSGWYR: Datblygu Staff, Dysgwyr sy’n Oedolion
ID: N/A
Cost y cwrs:
£350.00
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae angen yr hyfforddiant a’r asesiad deuddydd hwn ar gyfer unrhyw weithiwr sy’n dymuno gwneud gwaith ar offer jet pwysedd domestig. Mae’r mwyafrif helaeth o foeleri cartrefi yn perthyn i’r categori hwn.
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n Canolfan Ynni ar 01437 753 436, drwy e-bost energycentre@pembrokeshire.ac.uk neu drwy’r ffurflen gais am alwad yn ôl isod.Ar gyfer yr asesiad cychwynnol rhaid i ymgeiswyr fodloni’r gofynion mynediad a osodwyd gan OFTEC ar gyfer ymgeiswyr categori 1, 2, a 3. Gallai hyn gynnwys dilyn tystysgrif hyfforddiant OFT50.
Mae’r meysydd a gwmpesir gan y cwrs hwn yn cynnwys:
- Diogelwch olew cyffredinol ac egwyddorion
- Storio a chyflenwi olew
- Awyru, hylosgi a simneiau
- Diogelwch trydanol
- Rheolaethau
- Gwasanaethu a chyfarpar jet pwysedd a llosgwyr
- Gwasanaethu systemau gwresogi yn gyffredinol
- Comisiynu a dogfennaeth
- Canfod namau
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Arholiad ymarferol
- Arholiad ysgrifenedig
Following completion of this course you might want to try another one of our Energy Centre courses.
- Copïau o ddysgu blaenorol a/neu gymwysterau
- Dim costau ychwanegol