Cost y cwrs:
Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ
Sicrhewch fod eich cymwysterau Olew OFTEC yn gyfredol gyda’r pecyn byr hwn.
Cost y cwrs:
Mae’r ailasesiad deuddydd hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol presennol sydd eisoes yn meddu ar y cymwysterau ac y mae angen iddynt ailsefyll hyd at 6 mis cyn y dyddiad dod i ben, os yw’r elfen hon wedi dod i ben o fewn 12 mis i’r dyddiad asesu, bydd angen cymryd yr asesiad cychwynnol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n Canolfan Ynni ar 01437 753 436 neu drwy e-bost canolfanynni@colegsirbenfro.ac.uk
Rhaid i ddysgwyr fod wedi dal yr elfen yn flaenorol a rhaid cyflwyno tystysgrifau ar adeg yr asesiad fel tystiolaeth.
Mae’r meysydd a gwmpesir gan y cwrs hwn yn cynnwys:
Gwasanaethu a chomisiynu jet pwysedd cam sengl
Gosod offer a systemau hylosgi sefydlog â thanwydd olew a bio-hylif
Gosod systemau storio a chyflenwi tanwydd olew sy’n gysylltiedig ag offer hylosgi sefydlog
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn efallai y byddwch am roi cynnig ar un arall o’n cyrsiau Canolfan Ynni.
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.