Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Rheolaeth Adeiladu

Rheolaeth Adeiladu

Menyw yn gwisgo het galed oren yn dal gliniadur ar safle adeiladu.

Gallwch gyflawni HNC mewn Rheolaeth Adeiladu, trwy Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a’i gyflwyno’n lleol yng Ngholeg Sir Benfro yn Hwlffordd. Mae’r brentisiaeth hon wedi’i hanelu at y rheini sydd ag o leiaf 2 flynedd o brofiad perthnasol yn y diwydiant adeiladu neu sydd wedi cwblhau cymhwyster lefel tri mewn adeiladu. Rhaid i chi fod yn gyflogedig am o leiaf 16 awr yr wythnos, mewn rôl o fewn y diwydiant a fydd yn caniatáu i chi gynllunio a threfnu eich gwaith eich hun a chysylltu ag eraill.

ID: 52737

Os na chaiff ei gymryd fel prentisiaeth – cost:

POA

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Yn addas ar gyfer pobl sydd ag o leiaf 2 flynedd o brofiad perthnasol yn y diwydiant adeiladu neu sydd wedi cwblhau cymhwyster lefel tri mewn adeiladu.

Mae Prentisiaethau Uwch mewn Rheolaeth Adeiladu yn cynnwys:

  • HNC mewn Rheolaeth Adeiladu trwy Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a gyflwynir yng Ngholeg Sir Benfro dros un diwrnod yr wythnos
  • Cymhwyster NVQ Lefel 4 sy’n cael ei asesu yn y gweithle
  • Cymwysterau Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol oni bai eich bod wedi’ch eithrio – os nad oes gennych o leiaf TGAU gradd C mewn Saesneg neu Gymraeg a Mathemateg neu Rifedd, efallai y byddwn yn cynnig cwrs arall i chi yn lle Prentisiaeth. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio asesiadau llythrennedd a rhifedd eraill, a elwir yn WEST, i asesu eich addasrwydd.

I wneud cais am brentisiaeth, mae’n rhaid bod gennych gyflogwr sy’n fodlon eich cyflogi drwy gydol eich prentisiaeth. Rhaid i rôl eich swydd eich galluogi i gynllunio a threfnu o leiaf eich gwaith eich hun a chysylltu ag eraill wrth wneud hynny.

Bydd angen i’ch cyflogwr:

  • Allu eich rhyddhau un diwrnod yr wythnos i fynychu’r coleg
  • Rhoi tystiolaeth o yswiriant addas i ni a thystiolaeth o’ch statws cyflogaeth
  • Bod yn hapus i drafod gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch gyda’ch aseswr
  • Talu’r isafswm cyflog cenedlaethol priodol i chi, gan gynnwys diwrnodau coleg

Cyflwyno

  • Yn y coleg: Un diwrnod yr wythnos yn y coleg dros ddwy flynedd. Mae dosbarthiadau fel arfer yn rhedeg tan yn hwyr gyda’r nos.
  • Yn y gweithle: Rhaid i gyflogwyr gytuno i ymweliadau aseswr wedi’u cynllunio bob mis i’ch arsylwi ac i drafod eich cynnydd gyda goruchwyliwr.

Mae lleoedd ar Raglenni Prentisiaeth yn gyfyngedig ac yn amodol ar gapasiti. Nid yw cynnig cyflogaeth yn gwarantu lle ar unwaith yn y coleg.

Cludiant: Sylwch, ar gyfer cyrsiau prentisiaeth, byddai’r diwrnod coleg fel arfer yn dod i ben unrhyw bryd rhwng 5pm a 7pm, yn dibynnu ar y llwybr prentisiaeth rydych chi’n ei ddilyn. Gan fod bysiau’r coleg yn gadael am 4pm, bydd angen i chi sicrhau bod gennych eich cludiant eich hun yn ei le.


Unrhyw gwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm dysgu seiliedig ar waith, yn ystod oriau gwaith, ar 01437 753 205 neu unrhyw bryd drwy e-bost j.booth@pembrokeshire.ac.uk

Dysgwch fwy am ddechrau prentisiaeth ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredi.

  • Dau TGAU gradd C neu uwch i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd
  • Bydd disgwyl i chi fod mewn swydd berthnasol
  • Mae'n bosibl y bydd angen prawf sgiliau sy'n gysylltiedig â'r pwnc yn cyfarfod cwrs
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu cyfarfod cwrs neu gyfweliad anffurfiol
  • Rhaid i'r dysgwr fod dros 18 oed

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

HNC mewn Rheolaeth Adeiladu:

  • Technoleg Adeiladu 1 (arholiad)
  • Cyfraith Amgylchedd Adeiledig
  • Arolygu a Mesur Adeiladau
  • Tendro ac Amcangyfrif
  • Iechyd a Diogelwch
  • Rheoli Safle
  • Deunyddiau a Gwyddoniaeth

NVQ Lefel 4 mewn Rheolaeth Adeiladu:

Mae gofynion penodol ar gyfer gweithgareddau y mae angen i chi allu eu cyflawni yn y gweithle. Ar ôl i chi wneud cais, bydd aseswr yn cysylltu â chi a’ch cyflogwr i drafod sut i fodloni’r gofynion hyn.

Rhaid i chi allu cynllunio a threfnu o leiaf eich gwaith eich hun yn y gweithle.

Byddwch yn cael eich asesu trwy ddau arholiad ar-lein, asesiad ar y safle o brosiect seiliedig ar waith a thrafodaeth broffesiynol dan arweiniad ar ôl cwblhau prosiect seiliedig ar waith.

Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Arholiad ar-lein
  • Os cewch eich derbyn ar gyfer prentisiaeth yna cynhelir adolygiadau gyda’ch aseswr a’ch cyflogwr bob 1-2 fis a disgwylir i chi fod wedi datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth rhwng pob adolygiad

Gallai cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus arwain at nifer o gyfleoedd dilyniant gyrfa yn y dyfodol.

  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Offer Diogelu Personol (PPE) a Dillad, y gallwch eu prynu ar-lein cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.

Ydych chi'n Gyflogwr sy'n ystyried cymryd Prentis?

Dysgwch fwy am brentisiaethau a’r manteision i chi fel Cyflogwr ar ein tudalen Hyfforddiant Cyflogwyr.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

,

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 14/11/2023
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close