Ydy eich plentyn wedi dechrau yn y coleg yn ddiweddar? Wrth iddyn nhw setlo i fywyd y coleg, efallai eich bod eisoes yn meddwl tybed pa gyfleoedd sydd o’u blaen.
O brentisiaethau a phrifysgol i gyflogaeth a hyfforddiant pellach, mae digon o lwybrau ar gael ar ôl y coleg. Gall gwybod ble i ddechrau weithiau deimlo’n llethol, ond mae cymorth ar gael.
Mae Gyrfa Cymru yn cynnig arweiniad, gwybodaeth ac adnoddau am ddim i ddysgwyr a’u teuluoedd, gan eich helpu i ddeall yr opsiynau a gwneud dewisiadau gwybodus am y dyfodol.
Gall rhieni a gofalwyr gael mynediad at:
- Gwybodaeth am yrfaoedd ac adnoddau ymarferol
- Cyngor ar lwybrau ar ôl 18 oed
- Gwybodaeth am brentisiaethau, prifysgol a hyfforddiant
- Cymorth gyda chynllunio gyrfa
Archwiliwch adnoddau Diogelu dy ddyfodol Gyrfa Cymru a darganfyddwch sut y gallwch gefnogi camau nesaf eich plentyn.
