Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Hyfforddwr Rygbi yn Ym-Gais-io dros Awstria

WRU Rugby Officer, Aled Waters holding a rugby ball

Mae Coleg Sir Benfro yn falch o gyhoeddi bod Swyddog Rygbi URC, Aled Waters, ar fin ymgymryd â rôl hyfforddi fawreddog gyda Thîm Rygbi Cenedlaethol Awstria ym mis Mawrth.

Wedi byw yn Seland Newydd, cafodd Aled brofiad amhrisiadwy yn datblygu ei sgiliau hyfforddi ac mae’n barod i rannu ei arbenigedd ar y llwyfan rhyngwladol. Mae Tîm Rygbi Cenedlaethol Awstria wedi’i amserlennu i gystadlu yn erbyn Slofenia a Bosnia lle mae Aled yn gobeithio arddangos ei ymroddiad i ddyrchafu perfformiad y tîm a sefydlu presenoldeb cryf yn y gymuned rygbi fyd-eang.

Mynegodd Aled ei gyffro, gan ddweud: “

Mae cynrychioli Awstria ar y llwyfan rhyngwladol yn fraint, ac rydw i wedi ymrwymo i ddod â’r goreuon allan o’n chwaraewyr, gan sicrhau bod Tîm Rygbi Cenedlaethol Awstria yn cael ei gydnabod am ei sgil, penderfyniad, ac ysbryd.”

Mae’r cyfle hwn nid yn unig yn adlewyrchu ymrwymiad Aled i’r gamp ond hefyd yn cynnig twf personol iddo fel hyfforddwr.

“Mae’n caniatáu i mi’n bersonol i barhau i ddatblygu a dysgu mwy amdanaf fy hun fel hyfforddwr a dod â’m dysg i fy rôl bresennol gyda’r Academi Rygbi yma yn y Coleg,” ychwanegodd Aled.

Mae cymuned Coleg Sir Benfro yn hynod falch o Aled ac yn dymuno pob lwc iddo yn y fenter gyffrous hon. Heb os, bydd ei brofiad a’i ymroddiad yn cyfrannu at lwyddiant Tîm Rygbi Cenedlaethol Awstria ac yn parhau i ysbrydoli chwaraewyr rygbi uchelgeisiol yng Ngholeg Sir Benfro.

I ddarganfod mwy am y cyrsiau chwaraeon yn y Coleg ewch i: www.colegsirbenfro.ac.uk

Shopping cart close