Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Arloesol: Marcus yn Ymuno â Thîm Prydain ym Mharis

Marcus styling a mannequin head with bright yellow hair

Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod Marcus Smith, Tiwtor Trin Gwallt yng Ngholeg Sir Benfro wedi’i ddewis i gynrychioli Tîm Prydain ym Mhencampwriaethau OMC HairWorld ym Mharis ym mis Medi eleni. Bydd Marcus yn cystadlu yn y categori Lliw a Steil Creadigol, gan arddangos ei dalent eithriadol ar lwyfan rhyngwladol.

Pencampwriaeth y Byd – OCM HairWorld, a drefnir gan Organisation Mondiale Coiffure (OMC), yw’r gystadleuaeth fyd-eang flaenllaw yn y diwydiant trin gwallt, harddwch ac ewinedd. Gyda dros 50 o wledydd yn cymryd rhan, mae’r digwyddiad yn dathlu arloesedd, sgiliau a chelfyddyd ar draws sawl categori. Cysylltwyd â Marcus yn bersonol i roi cynnig ar y gystadleuaeth ac mae bellach wedi ennill ei le ymhlith talent trin gwallt gorau’r DU.

Mae’r categori Lliw a Steil Creadigol yn herio cyfranogwyr i ddod â’u gweledigaeth artistig yn fyw ar ben manequin, gyda dim ond 35 munud ar y diwrnod i gwblhau’r steilio. I baratoi, bydd Marcus yn mynd i Academi Goldwell yn Llundain ym mis Awst eleni, lle bydd yn lliwio pen y manecin ymlaen llaw—un o’r nifer o gamau strategol yn y gystadleuaeth amser yn erbyn y cloc hon.

Dywedodd Marcus:

“Dw i’n hynod ddiolchgar am y cyfle i gynrychioli’r DU ar blatfform mor fawr. Mae’n anrhydedd bod yn rhan o Dîm GB, a gobeithio y bydd fy nhaith yn ysbrydoli ein dysgwyr i freuddwydio’n fawr, gweithio’n galed, a chredu yn eu potensial. Mae cystadlaethau fel hyn yn fwy na charreg filltir bersonol—maent yn dangos i’n myfyrwyr fod trin gwallt yn yrfa fyd-eang, ddeinamig gyda chyfleoedd diddiwedd.”

Yn ogystal â’i gyfrifoldebau addysgu, mae Marcus yn teithio ar draws y wlad unwaith y mis i hyfforddi a pherffeithio ei dechneg gystadlu. Mae ei ymrwymiad i ragoriaeth nid yn unig yn gosod esiampl gref i fyfyrwyr ond mae hefyd yn codi enw da’r coleg am ddarparu addysg sy’n arwain y diwydiant.

Mae Coleg Sir Benfro yn falch o gefnogi Marcus ar ei daith, ar ôl helpu i ariannu ei ffi mynediad i’r gystadleuaeth a’i gefnogi ar bob cam o’r ffordd.

Wedi’i sefydlu ym 1946 yn Lyon, Ffrainc, Organisation Mondiale Coiffure (OMC) yw awdurdod mwyaf blaenllaw’r byd yn y diwydiant trin gwallt, harddwch ac ewinedd. Mae OMC yn cynnal Pencampwriaeth HairWorld blynyddol, gan ddarparu llwyfan i weithwyr proffesiynol gystadlu, derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol, a chymryd rhan mewn cyfleoedd hyfforddi byd-eang. Trwy gystadlaethau, addysg, a Gwobrau Byd-eang OMC, mae’r sefydliad yn codi safonau’r diwydiant yn barhaus ac yn dathlu rhagoriaeth ledled y byd.

Hoffai Coleg Sir Benfro ddymuno’r gorau i Marcus wrth iddo baratoi i wneud ei farc ar lwyfan y byd ym Mharis ym mis Medi hwn.

Shopping cart close