Mae dau ddysgwr Coleg Sir Benfro ar fin cychwyn ar daith oes, mewn ymgais ddewr i wneud y DU yn falch yng Nghystadleuaeth WorldSkills nesaf; i’w gynnal yn Shanghai ym mis Medi 2026.
Yn dilyn eu llwyddiant yn y cystadlaethau sgiliau cenedlaethol, bydd y dysgwr therapi harddwch Erin Owens a’r weldiwr Luke Roberts nawr yn ymuno â rhaglen hyfforddi ddwys 18 mis gyda’r gobaith o gael eu dewis ar gyfer y tîm a fydd yn cynrychioli’r DU yn WorldSkills Shanghai yn hydref 2026.
Yn cael ei adnabod fel ‘gemau olympaidd sgiliau’, dyma’r tro cyntaf i Tsieina gynnal cystadleuaeth fawreddog WorldSkills. Bydd 1,500 o bobl ifanc yn teithio i Shanghai o dros 80 o wledydd i gystadlu mewn disgyblaethau sgiliau technegol o beirianneg, gweithgynhyrchu a thechnoleg i sgiliau creadigol, digidol a lletygarwch, o flaen cynulleidfa o 250,000.
Wrth gyrraedd Sgwad y DU, dywedodd Luke:
“Dw i’n gyffrous am y cyfle sydd o’n blaenau ac yn awyddus i gyfrannu. Dw i eisoes wedi dechrau fy hyfforddiant gyda Carl Parish yn Wrecsam, a gyda’r hyfforddiant o ansawdd uchel ges i yng Ngholeg Sir Benfro, ynghyd â fy mhrofiad yn Haven Engineering, dw i’n hyderus yn fy ngallu i ymdrin ag unrhyw dasgau a gyflwynir i mi. Mae’n anrhydedd enfawr cael fy newis i gystadlu, dw i’n edrych ymlaen at y daith sydd o’n blaenau.”
Mae’r gystadleuaeth WorldSkills yn cael ei ystyried gan arbenigwyr byd-eang fel y prawf eithaf o allu cenedl i ddiwallu anghenion sgiliau yn y dyfodol. Mae’n cael ei fynychu gan gynrychiolwyr y llywodraeth, addysgwyr a chyflogwyr blaenllaw o bob cwr o’r byd.
Mae gan Goleg Sir Benfro hanes hir o ddysgwyr yn cyrraedd hyfforddiant Sgwad y DU gyda’r saer Chris Caine a’r cogydd Sam Everton yn cyrraedd Rowndiau Terfynol y Byd yn Rwsia yn 2019 lle cawson nhw ganmoliaeth uchel yn eu cystadlaethau priodol.
Dywedodd Pennaeth y Coleg, Dr Barry Walters:
“Rydyn ni’n eithriadol o falch o Erin a Luke am ennill eu lle yn Sgwad y DU – yn dyst i’w talent, eu hymroddiad a’u gwaith caled. Mae’r cyfle hwn i gystadlu ar y lefel uchaf nid yn unig yn ymwneud ag arddangos eu sgiliau ond am wthio ffiniau, cofleidio heriau, ac ymdrechu am ragoriaeth. Wrth iddyn nhw gychwyn ar y daith ddwys hon tuag at rowndiau terfynol y byd, maen nhw’n cario ysbryd ein Coleg, gan ysbrydoli eraill i freuddwydio’n fawr a chyflawni hyd yn oed yn fwy. Dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw!”
Mae WorldSkills UK yn defnyddio ei gyfranogiad yng nghystadleuaeth ryngwladol WorldSkills i hyrwyddo rhagoriaeth sgiliau ledled y DU, a thrwy weithio gydag addysg, diwydiant a llywodraethau’r DU mae’n ymgorffori safonau hyfforddi o’r radd flaenaf ledled y sector sgiliau. Mae hyn yn helpu i ateb y galw am weithlu medrus iawn mewn sectorau hanfodol gan gynnwys peirianneg, digidol, gweithgynhyrchu ac adeiladu.
Bydd y DU yn cystadlu mewn dros 30 o sgiliau yn WorldSkills Shanghai 2026, gan gynnwys Celf Gêm Ddigidol 3D, Integreiddio Systemau Robot ac Ynni Adnewyddadwy.
Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr, WorldSkills UK:
“Llongyfarchiadau i Erin a Luke ar gael eu dewis ar gyfer ein rhaglen hyfforddi ar gyfer WorldSkills Shanghai 2026. Ynghyd â’r aelodau eraill ar ein rhaglen, byddan nhw’n datblygu’r sgiliau cywir i danio twf busnes ar draws ein heconomi. Gyda WorldSkills yn cael ei gynnal yn Shanghai y flwyddyn nesaf, mae’n darparu llwyfan gwych i ni weithio’n agos gyda Tsieina, lle rydyn ni’n gwybod bod rhagoriaeth sgiliau yn flaenoriaeth, i gydweithio, arloesi a dysgu gan y gorau yn y byd.”
Dywedodd Freya Thomas Monk, Rheolwr Gyfarwyddwr Cymwysterau Pearson:
“Mae Pearson yn falch o noddi Tîm y DU! Mae rhoi hwb i broffil a bri addysg dechnegol a galwedigaethol yn hynod bwysig i ni a dw i’n dymuno pob lwc i’r grŵp talentog hwn o 86 o bobl ifanc o bob cwr o’r wlad wrth iddyn nhw ddechrau eu rhaglen hyfforddi tuag at gystadlu yn Shanghai.”
Pearson yw partner swyddogol Tîm y DU ar gyfer WorldSkills Shanghai, yn dilyn partneriaeth lwyddiannus yn WorldSkills Lyon yn 2024.