Mae Cyn-gadetiaeth Peirianneg Forol Uwch arloesol Coleg Sir Benfro wedi cyrraedd rownd derfynol categori Sgiliau Dyfodol Gwobrau Morwrol y DU.
Wedi’i chyflwyno mewn partneriaeth ag Ysgol Forwrol Warsash, mae’r rhaglen yn fenter wirioneddol arloesol, a’r Gadetiaeth Sylfaen gyntaf yng Nghymru. Wedi’i datblygu mewn rhanbarth sydd â threftadaeth forol gyfoethog ac wedi’i theilwra ar gyfer dyfodol morwriaeth, mae’r rhaglen unigryw hon yn mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau cynyddol yn y sectorau morwrol a pheirianneg forol.
Mewn blwyddyn yn unig mae’r rhaglen yn cynnig llwybr wedi’i ariannu’n llawn i bobl ifanc i yrfaoedd morwrol – o ddiplomâu Dec, Peirianneg ac Electro-dechnegol i Raddau Sylfaen.
Wedi’i gynllunio mewn cydweithrediad agos â phartneriaid yn y diwydiant, mae’r Cyn Gadetiaeth yn cyfuno trylwyredd academaidd traddodiadol â hyfforddiant morwrol ymarferol yn y byd go iawn. Mae’r pynciau’n cynnwys cyfraith forol, logisteg masnach fyd-eang, morwriaeth, mordwyo electronig, a diogelwch ar y môr – wedi’i atgyfnerthu trwy hyfforddiant efelychwyr, darlithoedd gwadd arbenigol, a gweithdai ymarferol. Mae’n gyfuniad ysbrydoledig o theori ac ymarfer, i gyd wedi’u halinio â gofynion y diwydiant morol sy’n dod i’r amlwg.
Gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Forwrol Reardon Smith, mae dysgwyr yn ennill ardystiadau allweddol a gydnabyddir gan y diwydiant (gan gynnwys RYA Powerboat Lefel 2, VHF Radio, a Sea Survival), ac yn cwblhau pum wythnos o brofiad gwaith morwrol yn y byd go iawn.
Cyflwynodd y Comander Tim Berry, darlithydd ar y rhaglen, y gadetiaeth ar gyfer y wobr a dywedodd: “Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dathlu ymrwymiad y Coleg i ddarparu ein Cyn-gadetiaid Peirianneg Forol â’r sgiliau blaengar sydd eu hangen ar gyfer y sectorau morol ac ynni sy’n esblygu – o ynni adnewyddadwy ar y môr i longau morol mawr.”
Ychwanegodd: “Mae’r canlyniadau’n siarad drostynt eu hunain. Yn ei blwyddyn gyntaf, mae pum dysgwr eisoes wedi sicrhau nawdd y mae galw mawr amdanynt gyda chyflogwyr morol blaenllaw fel P&O, SSTG, Northstar, a Zodiac. Mae’r cyflawniadau hyn nid yn unig yn dangos ansawdd yr hyfforddiant ond hefyd effeithiolrwydd y rhaglen wrth baru potensial dysgwyr â galw cyflogwyr ac anghenion sgiliau’r dyfodol. Diolch yn fawr iawn i’n staff, dysgwyr, ac yn bwysig iawn, ein partneriaid yn y diwydiant morol am helpu i lunio talent y dyfodol.”
Bydd y noson wobrwyo fawreddog yn cael ei chynnal ar 26 Mehefin a bydd yn uchafbwynt Uwchgynhadledd Pwerdy Arfordirol Dover, gan ddod ag arweinwyr diwydiant, arloeswyr, a llunwyr polisi o bob rhan o’r DU ynghyd i ddathlu’r llwyddiannau eithriadol sy’n gyrru’r sector morol yn ei flaen.
Mae Gwobrau Morwrol y DU yn tynnu sylw at gyfraniad hanfodol y sector i economi’r DU, sy’n cynhyrchu £116 biliwn yn flynyddol ac yn cefnogi dros 1.1 miliwn o swyddi ar draws llongau, porthladdoedd, peirianneg, gwasanaethau proffesiynol, a’r diwydiant hamdden morol.
I ddarganfod mwy am y Cyn Gadetiaeth