Mae tair tyrbin newydd bellach yn sefyll ar hyd Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn Ne Sir Benfro, sy’n cynrychioli cyfraniad y rhanbarth at ddyfodol sy’n dibynnu llai ar garbon. Yn ogystal â chynhyrchu ynni adnewyddadwy, mae Cronfa Ynni Gwynt Gymunedol Dragon Energy yn darparu buddion parhaol i gymunedau lleol drwy gefnogi mentrau sy’n lleihau costau ynni ac yn buddsoddi mewn addysg a datblygu sgiliau.
Un o’r rhai sy’n elwa ar y Gronfa yw Coleg Sir Benfro, y mae ei bartneriaeth hirsefydlog ag ysgolion uwchradd lleol yn darparu cyfleoedd dysgu galwedigaethol i bobl ifanc ledled y sir. Ar adeg pan mae pwysau ariannol cynyddol wedi cyfyngu ar gyllid ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi a chymwysterau ychwanegol, mae buddsoddiad pum mlynedd Dragon Energy yn helpu i sicrhau bod dysgwyr yn parhau i gael mynediad at gyfleoedd gwerthfawr y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
Mae’r cyllid yn cefnogi rhaglen arloesol y tu allan i’r cwricwlwm ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 11 o Ysgol Aberdaugleddau, gan eu galluogi i ennill cymhwyster ychwanegol tra’n datblygu gwybodaeth a sgiliau sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd, peirianneg a’r amgylchedd.
Caiff y rhaglen ei chyflwyno gan Goleg Sir Benfro, ac mae’n cyfuno dysgu ymarferol â heriau o’r byd go iawn. Mae’n annog dysgwyr i archwilio sut y gallant gyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy, tra hefyd yn darganfod llwybrau gyrfa posibl o fewn diwydiannau lleol allweddol.
“Wrth wraidd y rhaglen mae dysgu sy’n seiliedig ar brosiectau, sy’n rhoi profiad gwerthfawr i fyfyrwyr o reoli prosiectau, yn ogystal â sgiliau peirianneg ac adeiladu. Y gobaith yw y bydd y profiad ymarferol hwn yn tanio diddordeb mewn gyrfaoedd yn y dyfodol ar draws y sectorau hanfodol hyn,”
meddai Hayley Williams, Rheolwr Datblygu Cwricwlwm yng Ngholeg Sir Benfro.
Mae’r fenter yn adlewyrchu ymrwymiad y Coleg a Dragon LNG i ddarparu profiadau ystyrlon i ddysgwyr – profiadau sy’n meithrin hyder, yn codi dyheadau ac yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng addysg a diwydiant.
Ychwanegodd Lynette Round, Swyddog Perfformiad Cymunedol a Chymdeithasol yn Dragon Energy:
“Mae ein Cronfa Ynni Gwynt Gymunedol wedi’i chynllunio i ddarparu buddion hirdymor yn lleol; ac mae cefnogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau a dyheadau newydd yn un o’r buddsoddiadau pwysicaf y gallwn eu gwneud. Trwy raglenni fel hyn, gallwn helpu pobl ifanc i weld y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael ar eu stepen drws, ac annog y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol medrus a fydd yn llunio dyfodol Sir Benfro.”
Trwy gydweithio, mae Dragon Energy a Choleg Sir Benfro yn helpu i roi’r sgiliau, y wybodaeth a’r uchelgais sydd eu hangen ar bobl ifanc i gefnogi gweithlu’r rhanbarth yn y dyfodol, tra hefyd yn cyfrannu at Sir Benfro fwy cynaliadwy.
