Yellow trainers on yellow background with multicoloured arrows.

Cofrestru ar gyfer Twf Swyddi Cymru+

Yma rydym wedi casglu ynghyd fanylion am sut i gofrestru, ac yna rhywfaint o wybodaeth y gobeithiwn y bydd yn ddefnyddiol i chi cyn dechrau yn y Coleg ym mis Medi.

Mae ein holl staff yn gyfeillgar iawn ac mae gennym ni bolisi drws agored sy’n golygu y gallwch chi alw draw i’n swyddfeydd unrhyw bryd i ofyn cwestiwn. Dyma rai pobl ddefnyddiol i chi eu hadnabod. Dangosir i chi ble i ddod o hyd iddynt yn ystod eich diwrnod cyntaf yn y Coleg ond os nad ydych yn cofio, galwch i’r dderbynfa a byddwn yn eich cyfeirio at y cyfeiriad cywir.

Gofynnir i chi ddarparu’r ddogfennaeth ganlynol os nad ydych eisoes wedi eu darparu yn ystod eich cyfarfod cyn-cychwyn yn y Coleg:

  • Hawl gyfreithiol i fyw a gweithio: Llythyr rhif yswiriant gwladol
  • Prawf Oedran: Pasbort neu Dystysgrif Geni neu Drwydded Yrru
  • Cymhwyster: Cofnod o ganlyniadau’r ysgol neu’ch tystysgrif cymhwyster lefel uchaf
  • Cyfeiriad: Sicrhewch fod UN o’r dogfennau a restrir uchod yn cynnwys eich cyfeiriad cartref
  • Manylion banc: byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen gydag Enw’r Cyfrif, Cod Didoli a Rhif y Cyfrif

Dilynwch y dolenni ar yr ochr chwith i weld amserlenni bysiau a chyllid myfyrwyr i gael cinio am ddim.

Cysylltiadau Defnyddiol: