Rhowch hwb i'ch gyrfa!
Os ydych chi dros 19, mewn swydd sy’n ennill llai na £34,303 y flwyddyn* ac eisiau cymryd y cam nesaf i yrfa wych, gallai Cyfrif Dysgu Personol fod yr union beth rydych chi’n chwilio amdano.
Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn gyrsiau rhad ac am ddim sydd wedi’u cynllunio i’ch darparu â’r sgiliau a’r cymwysterau y mae cyflogwyr lleol yn chwilio amdanynt i’ch helpu i fanteisio ar brinder sgiliau a rhoi hwb i’ch gyrfa.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth iddynt ymdrechu i wneud y cynnydd mwyaf tuag at ddatgarboneiddio. Bydd uwchsgilio yn y sectorau Net Sero a Digidol yn helpu i gefnogi’r ymrwymiad hwn. Felly, rydym wedi dileu’r maen prawf cyflog ar y cyrsiau canlynol:
- Electrical Energy Storage Systems: Installation and Commissioning
- Air Source and Ground Source Heat Pumps
- Energy Efficiency
- Hot Water: Solar Thermal Heating
- Solar Photovoltaic Systems – Small Scale
- Gas: Domestic Gas Foundation
Noder: Gall meini prawf cymhwysedd a chyrsiau PLA newid drwy gydol y flwyddyn.

Cysylltwch â ni:
- Dydd Llun i Ddydd Gwener: 09:00 i 17:00
- 01437 753 320
- central@pembrokeshire.ac.uk
Cysylltwch â Cymru’n Gweithio:
- Dydd Llun i Ddydd Gwener: 09:00 i 17:00
- 0800 028 4844
- workingwales@careerswales.gov.wales

Am PLAs
Pwy sy'n gymwys?
Mae cymhwysedd cyfredol yn cynnwys:
- 19+ oed
- byw yng Nghymru
- cyflogedig (gan gynnwys rhan-amser, hunangyflogedig, asiantaeth, dim awr); yn ennill islaw cyflog canolrifol dynion (£34,303 y flwyddyn)
- dan rybudd diswyddo (gall barhau â’r cwrs os caiff ei ddiswyddo ar ôl dechrau)
- gofalwyr llawn amser (yn gymwys i lenwi cyrsiau PLA lle mae capasiti)
Sut mae cyrchu'r rhaglen?
Gallwch gael mynediad i’r rhaglen drwy gysylltu â ni neu â Cymru’n Gweithio am asesiad cyn-derbyn. Bydd cynghorydd gyrfaoedd profiadol yn trafod eich dyheadau gyrfa ac yn eich tywys drwy’r broses Cyfrif Dysgu Personol. Byddant yn sicrhau bod y cwrs a ddewiswch yn iawn i chi.
Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol ar central@pembrokeshire.ac.uk
Neu Cymru’n Gweithio ar: 0800 028 4844
A oes angen unrhyw sgiliau neu gymwysterau penodol arnaf?
Ydy'r rhain yn agored i'r hunangyflogedig?
A allaf gael mynediad at fwy nag un cwrs?
Sut ydw i'n gwybod pryd fydd y cwrs yn rhedeg?
A allwch chi wneud y rhain os oes gennych chi radd yn barod?
Beth yw Cymru'n Gweithio a pham mae angen i gleientiaid gofrestru gyda nhw?
