Am Ddim a Hyblyg
Rhowch hwb i'ch gyrfa ar ôl y cyfnod clo!
Cysylltwch â Cymru’n Gweithio:
- Dydd Llun i Ddydd Gwener: 09:00 i 17:00
- 0800 028 4844
- workingwales@careerswales.gov.wales
- central@pembrokeshire.ac.uk


Am PLAs
- yn 19+ oed
- yn byw yng Nghymru
- yn gyflogedig (yn cynnwys rhan-amser, hunangyflogedig, asiantaeth, dim oriau); yn ennill llai na chyflog canolrifol dynion (£29,534 y flwyddyn)
- o dan hysbysiad diswyddo (yn gallu parhau â’r cwrs os yn cael eu diswyddo ar ôl dechrau)
- gofalwyr llawn-amser (yn gymwys i fewnlenwi ar gyrsiau PLA lle mae capasiti)
Gallwch gael mynediad i’r rhaglen drwy gysylltu â Cymru’n Gweithio i gael asesiad cyn-derbyn. Bydd cynghorydd gyrfaoedd profiadol yn trafod eich dyheadau gyrfa ac yn siarad â chi drwy’r broses Cyfrif Dysgu Personol. Byddant yn sicrhau bod y cwrs a ddewiswch yn addas i chi.
Ffoniwch: 0800 028 4844
E-bost: workingwales@careerswales.gov.wales
Fel arall, gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol ar central@pembrokeshire.ac.uk
Gan fod y rhaglen wedi’i hanelu at unigolion a hoffai newid eu gyrfa, yn aml, nid oes angen gwybodaeth flaenorol o’r sector. Gellir cyrchu rhai o’r cyrsiau hefyd heb unrhyw sgiliau neu gymwysterau penodol. Byddwch yn cael y cyfle i drafod gofynion y cwrs gyda’ch cynghorydd Cymru’n Gweithio neu gyda’r coleg pan fydd gennych asesiad cyn-derbyn.
Ein nod yw darparu’r dysgu o amgylch ymrwymiadau gwaith a theulu pobl. Bydd eich argaeledd yn cael ei drafod yn ystod eich asesiad cyn-derbyn.
Ydych, rydych chi’n gallu. Er, os ydych yn astudio ar sail llawn-amser ar gyfer gradd neu unrhyw gymhwyster ffurfiol arall ar hyn o bryd, ni fyddech yn gymwys.
Mae Cymru’n Gweithio yn darparu dull syml o roi cymorth cyflogadwyedd drwy ddarparu un pwynt cyswllt i unigolion er mwyn iddynt allu cael gafael ar y cyngor, yr arweiniad, y cymorth a’r hyfforddiant personol sydd eu hangen arnynt i sicrhau a chynnal cyflogaeth hirdymor.
Mae’r gwasanaeth cyngor rhad ac am ddim yn cynnig cymorth wyneb yn wyneb yn ogystal â thrwy ddulliau digidol fel ffôn, gwe-sgwrs, e-bost a chymorth cynghori un-i-un gan ddefnyddio Microsoft Teams ar gyfer cyfweliadau fideo, i unrhyw un dros 16 oed nad yw’n llawn-amser addysg ac eisiau sicrhau swydd. Mae’r cymorth sydd ar gael yn cynnwys hyfforddiant penodol i swydd, chwilio am swyddi, ysgrifennu CV, magu hyder, paratoi ar gyfer cyfweliad a sicrhau lleoliadau gwaith. Gall y cynghorwyr arbenigol hefyd gyfeirio pobl at raglenni lle gallant gael cymorth gofal plant a chymorth trafnidiaeth. Bellach dyma’r brif sianel i bobl sy’n chwilio am hyfforddiant a chyflogaeth.

Am y Costau
Bydd y cwrs yn cael ei ariannu 100% gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, bydd angen i chi dalu am eich teithio a sicrhau bod gennych ddigon o amser i allu ymrwymo i fynychu a chwblhau’r cwrs.
Rydym yn deall bod amgylchiadau personol yn newid a bydd sefyllfaoedd lle gall cyfranogwyr fod mewn sefyllfa lle na allant barhau â’u cwrs. Fodd bynnag, gofynnwn i chi sicrhau y gallwch ymrwymo i’r cwrs cyn dechrau.
Rydym yn deall bod amgylchiadau personol yn newid. Gallech wneud cais i ddilyn cwrs newydd, os ydych yn dal i fodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y rhaglen. Fodd bynnag, byddem yn disgwyl i chi ymrwymo i’r cwrs a phe baech yn rhoi’r gorau iddi am yr eildro, ni fyddai gennych hawl i gyllid yn y dyfodol drwy’r Cyfrif Dysgu Personol.
Mae’r cyrsiau hyn yn bodloni’r prinder sgiliau sydd wedi’u nodi mewn sectorau blaenoriaeth yng Nghymru. Disgwylir y bydd y sectorau hyn yn creu cyfleoedd gwaith nawr neu yn y dyfodol. Mae’r cyrsiau hyn wedi’u dewis yn dilyn ymgysylltu helaeth â chyflogwyr, rhanddeiliaid, grwpiau cynrychioliadol a chyfranogwyr posibl i sicrhau eu bod yn mynd i’r afael â’r prinder sgiliau yn y sectorau hyn. Byddwn yn parhau i adolygu hyn ac efallai y bydd sectorau ychwanegol yn cael eu hychwanegu yn y dyfodol.
Ni fyddech yn derbyn yr arian yn uniongyrchol, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cofrestru ar y cwrs. Bydd y coleg yn cael ei dalu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.