Yn ddiweddar mynychodd myfyrwyr lletygarwch Coleg Sir Benfro ddiwrnod agored rhithwir yn un o westai enwocaf y byd.
Wedi’i drefnu gan Fforwm y Cogyddion, cafodd dysgwyr gyfle i fynd y tu ôl i’r llenni yn y Dorchester, y gwesty moethus pum seren ar Park Lane a Deanery Street, Llundain.
Roedd y digwyddiad rhithwir yn caniatáu i ddysgwyr gael mynediad at amrywiaeth eang o adnoddau byw gan gynnwys arddangosiadau coginio cogyddion, dosbarthiadau meistr profiad blaen tŷ a phrofiad cwsmer, mewnwelediadau i gadw trefn ar waith gweinyddol, blodeuwriaeth a gwin, ynghyd â darganfod sut mae gwesty pum seren yn cael ei reoli bob dydd.
Y cogyddion gwadd oedd Adam Smith, Mario Perera a Tom Booton a goginiodd eu prydau pysgod unigryw enwog.
Dywedodd Alan Wright, darlithydd lletygarwch yng Ngholeg Sir Benfro, “Mae wedi bod yn flwyddyn wych yn gweithio gyda Fforwm y Cogyddion ac mae ein dysgwyr wedi ennill cymaint o sgiliau gwerthfawr. Roedd cael fy ngwahodd i ddigwyddiad a gynhaliwyd gan Westy’r Dorchester yn gymaint o anrhydedd. Roedd yn ddiwrnod ysbrydoledig i’n dysgwyr glywed gan weithwyr proffesiynol y diwydiant a diolchwn i Fforwm y Cogyddion am ei hwyluso”.
Cafodd y dysgwyr hefyd gipolwg ar fyd recriwtio, yn cynnwys ysgrifennu CV, technegau cyfweld a phrosesau ymgeisio.
Esboniodd y dysgwr lletygarwch, Dominic Caselton pa mor ddefnyddiol oedd y sesiwn rithwir, “Roedd digwyddiad Fforwm y Cogyddion gyda’r Dorchester yn cynnig mewnwelediad anhygoel i’r diwydiant, roedd y gwesteiwyr yn rhyngweithiol ac yn addysgiadol. Fe wnaeth pawb y siaradais â nhw fwynhau’r digwyddiad a’i fod yn ddefnyddiol. Gwnaeth y safonau uchel gafodd eu gosod a’u rhannu gyda ni gan staff Dorchester argraff beresonol arnaf i.”
Trwy gydol y cyfnod clo, mae dysgwyr lletygarwch wedi bod yn cymryd rhan mewn sesiynau Fforwm y Cogyddion wythnosol lle maen nhw’n dysgu yng ngheginau hyfforddi’r Coleg ochr yn ochr â chogyddion gwadd o bob rhan o’r DU. Bob wythnos maen nhw’n coginio prydau newydd a chyffrous i’w hysbrydoli ym myd profiadau bwyta coeth.