Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Prosiect Prentisiaethau Lletygarwch

Hospitality Stock Image

Amcan y prosiect yw cynnal cyflogaeth trwy ymgysylltu ag amrywiaeth o gyflogwyr gan ddefnyddio sgiliau, profiad a rhannu arfer da a hwylusir trwy bwynt cyswllt, a fydd yn darparu rhwydwaith cymorth ar gyfer prentis cogydd. Bydd y rhaglen yn ategu’r ddarpariaeth bresennol ac ni fydd yn disodli prentisiaethau a gyflogir yn uniongyrchol.

Bydd prentisiaid yn dilyn rhaglen strwythuredig, yn ymgymryd â lleoliadau mewn cwmnïau sy’n rhan o’r prosiect, sy’n cyfateb yn briodol i gryfderau’r prentis, anghenion y cyflogwr ac sy’n cwrdd â gofynion fframwaith priodol. Bydd y prentisiaid yn ennill profiad gwerthfawr a sgiliau trwy weithio gyda’r cwmni. Bydd prentisiaid hefyd yn treulio amser gyda dau gwmni neu fwy er mwyn ennill y profiad a’r sgiliau perthnasol. Bydd bwytai masnachol y Coleg yn gweithredu fel y gweithle mewn achosion pan na all cyflogwyr gadw prentisiaid yn y tymor allfrig nes bod cyflogwr newydd wedi cael ei sicrhau.

Mae’r model yn ceisio adlewyrchu galw cyfnewidiol y sector lletygarwch trwy osod prentis-gogyddion gyda chyflogwyr yn ystod eu hamser prysuraf ac yna dod â nhw’n ôl i fwytai a cheginau’r darparwr yn ystod cyfnodau tawel.

Bydd cyflogwyr yn nodi swyddi gwag a byddwn yn gweithio gyda nhw ar recriwtio a chyflogi unigolion. Bydd y broses hon yn cael ei rheoli gan gydlynydd y prosiect yng Ngholeg Sir Benfro. Bydd tueddfryd a chymhelliant yn ysgogwyr allweddol ond nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol heblaw am y brwdfrydedd a’r parodrwydd i weithio yn y sector. Bydd y cynllun hwn yn ategu’r ddarpariaeth bresennol trwy gynnig dewis arall sy’n ceisio cynyddu nifer y myfyrwyr sy’n dewis dilyn llwybrau yn y sector lletygarwch. Gellir darparu rhai rhannau o’r ddarpariaeth ochr yn ochr â AB a phrentisiaid eraill yn y gegin, yr ystafell ddosbarth neu’r bwyty.

Manteision i gyflogwyr:

  • Mae’r cynnig yn darparu cyfleoedd uchelgeisiol i bobl ifanc yng Ngorllewin Cymru.
  • Mae prentisiaid yn cael eu cyflogi gan Goleg Sir Benfro ac wedi’u his-gontractio i gyflogwr am gyfnod penodol o amser.
  • Mae Coleg Sir Benfro yn rheoli’r agwedd gyflogaeth ac yn cefnogi’r cyflogwr i recriwtio prentis addas.
  • Os na all cyflogwr ymrwymo i gadw’r prentis ar ôl y tymor brig, yna mae Coleg Sir Benfro yn rheoli’r sefyllfa a bydd yn ceisio dod o hyd i leoliad cyflogwr newydd i’r prentis.
  • Gall prentisiaid gael profiad o weithio gydag 1 cyflogwr neu fwy ac ennill sgiliau ychwanegol trwy’r broses.
  • Mae prentisiaid yn cyflawni cymhwyster cydnabyddedig sy’n benodol i’r diwydiant.

Arweinydd y Prosiect: Coleg Sir Benfro (mewn partneriaeth â PRP Training, Coleg Sir Gâr)

Shopping cart close