Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Clwb Pêl-droed Sir Hwlffordd a Choleg Sir Benfro yn Cydweithio

Students and staff stood in front of the Bridge Meadow sign on the Haverfordwest AFC pitch

Mae hyn yn golygu y bydd timau’r Coleg yn hyfforddi ac yn chwarae eu gemau yn un o’r cyfleusterau gorau yng ngorllewin Cymru, gan greu amgylchedd ysbrydoledig i fyfyrwyr ddysgu, datblygu a pherfformio.

Bydd y bartneriaeth nid yn unig yn darparu mynediad i fyfyrwyr-athletwyr i gaeau o ansawdd uchel, ond bydd hefyd yn agor y drws i fentrau ar y cyd rhwng y clwb a’r Coleg.

Trwy rannu arbenigedd ac adnoddau, mae’r ddau sefydliad yn anelu at greu llwybr sy’n cefnogi datblygiad chwaraewyr, llwyddiant academaidd, a thwf personol.

Gyda’i gilydd, mae Clwb Pêl-droed Sir Hwlffordd a Choleg Sir Benfro yn gosod y sylfeini ar gyfer partneriaeth gynaliadwy, uchelgeisiol a chymunedol – un a fydd yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr, myfyrwyr a chefnogwyr ledled y rhanbarth.

Dywedodd Emma Davies (Pennaeth y Gyfadran Addysg Galwedigaethol Arbenigol yng Ngholeg Sir Benfro)

“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Phêl-droed Sir Hwlffordd. Bydd ein pêl-droedwyr yn elwa’n fawr o’r bartneriaeth gan y byddant yn cael hyfforddi a chwarae mewn cyfleuster mor wych. Bydd y ddarpariaeth ansawdd hon ond yn gwasanaethu i ddatblygu hyder a sgiliau ein chwaraewyr, gan ddyrchafu eu profiad o fod yn rhan o’n Academïau Chwaraeon a’n coleg yn ei gyfanrwydd. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld ein chwaraewyr, o’n timau gwrywaidd a benywaidd, yn llwyddiannus ar y ca.”

Dywedodd Alaric Jones (Rheolwr Partneriaethau Clwb Pêl-droed Sir Hwlffordd)

“Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi ein partneriaeth â Choleg Sir Benfro. Gan fy mod yn dod o Hwlffordd, rwyf wedi gweld drosto fy hun yr effaith gadarnhaol y mae hyn yn ei chael ar bêl-droedwyr ifanc y sir, ac mae’n wych ein bod ni fel clwb yn gallu parhau i chwarae rhan allweddol yn natblygiad darpariaeth bêl-droed i fechgyn a merched yn Sir Benfro.”

Shopping cart close