Cost y cwrs:
Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ
Mae’r cwrs blwyddyn hwn wedi’i anelu at ddysgwyr sydd â diddordeb mewn dod yn Ymgynghorydd Uwchraddio Ôl-osod yn ogystal ag uwchsgilio’r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant Adeiladu.
Cost y cwrs:
Mae Ymgynghorwyr Uwchraddio Ôl-osod yn hanfodol ar gyfer tywys perchnogion tai trwy’r broses gymhleth o wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi, gan sicrhau bod uwchraddiadau’n effeithiol ac yn bodloni’r safonau angenrheidiol.
Gyda’r DU yn anelu at Sero Net erbyn 2050, disgwylir cynnydd sydyn yn y galw am y gweithwyr proffesiynol hyn wrth i fwy o gartrefi fod angen ôl-osod.
Mae’r cymhwyster hwn yn cwmpasu agweddau allweddol i Ymgynghorydd Uwchraddio Ôl-osod – gan gynnwys cynaliadwyedd a newid hinsawdd. Bydd dysgwyr hefyd yn astudio gwyddoniaeth a phroses gosod Uwchraddio Ôl-osod, sy’n cynnwys cyfathrebu ac agweddau iechyd a diogelwch sy’n berthnasol i Ymgynghorydd Uwchraddio Ôl-osod.
Rhaid i ddysgwyr fod dros 16 oed.
Mae’r cwrs blwyddyn hwn wedi’i anelu at ddysgwyr sydd â diddordeb mewn dod yn Ymgynghorydd Uwchraddio Ôl-osod yn y diwydiant Adeiladu. Mae hefyd wedi’i anelu at uwchsgilio gweithwyr presennol yn y diwydiant Adeiladu.
Bydd yr unedau a gynhwysir yn cynnwys:
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno yn y coleg, un diwrnod yr wythnos am 24 wythnos.
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Mae’r cymhwyster Ymgynghorydd Uwchraddio Ôl-osod yn cefnogi dilyniant i ddysgwyr sy’n awyddus i symud ymlaen ymhellach i rolau Asesydd Uwchraddio Ôl-osod a Chydlynydd Uwchraddio Ôl-osod. Mae’r sgiliau a ddatblygir drwy’r cymhwyster hwn hefyd yn drosglwyddadwy i feysydd adeiladu eraill.
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.