Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Gosod Electrodechnegol

Dilyniant Estynedig Lefel 3 EAL mewn Gosod Electrodechnegol

Mode: Rhan-amser
Level: Lefel 3 - Uwch

ID y Cwrs: 57921

Mae’r cwrs rhan-amser blwyddyn yma wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sydd am barhau â’u hyfforddiant i ddod yn drydanwr cymwys.

blwch ffiws trydanol

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cwrs rhan-amser blwyddyn hwn wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sydd am baratoi i weithio yn y diwydiant ac i barhau â’u hyfforddiant i ddod yn drydanwr cymwys.

Rhaid i ddarpar ymgeiswyr fod yn ymwybodol nad yw cwblhau’r cymhwyster hwn yn golygu eu bod wedi cymhwyso’n llawn ac er mwyn dod yn drydanwr cymwys rhaid i ddysgwyr barhau i weithio yn y diwydiant a chwblhau’r cymhwyster Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu EAL (Lefel 3) – Gosod Electrotechnegol.

Mae’r cwrs hwn fel arfer yn rhedeg un diwrnod yr wythnos gan ddechrau ym mis Medi.

Bydd angen i ddysgwyr ddod â chopi o Ganllaw Ar y Safle IET gyda nhw ar y diwrnod cyntaf.

  • Bydd disgwyl i chi fod wedi cwblhau'r lefel flaenorol yn llwyddiannus yn y maes pwnc hwn neu debyg
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

  • Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant

Bydd dysgwyr yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r egwyddorion, y damcaniaethau a’r arferion sy’n ofynnol yn y fasnach gosod electrodechnegol a sut mae’r rhain yn cael eu perfformio yng Nghymru.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys yr unedau canlynol:

  • Yr amgylchedd adeiledig yng Nghymru
  • Egwyddorion sefydlu a chynnal perthnasoedd yn y sector peirianneg gwasanaethau adeiladu
  • Egwyddorion Cydlynu safle gwaith
  • Damcaniaeth a thechnoleg gosod
  • Arolygu a phrofi trydanol
  • Arolygu a phrofi trydanol

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
  • pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg

Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.

Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.

Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk

Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.

Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:

Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd

Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.

Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
  • Arholiad ar-lein

I ddod yn gwbl gymwys fel trydanwr, rhaid i ddysgwyr weithio yn y diwydiant a hefyd gwblhau’r EAL Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 3) – Gosod Electrodechnegol.

  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • IET On-Site Guide (BS 7671) - £40
  • Dewch â chopi o'r "IET On-Site Guide" (BS 7671:2018) Gwelliant 4, Nodiadau Canllaw cyfredol
  • Trowsus gwaith trydanol - £25
  • Esgidiau/bwts diogelwch trydanol - £14/£39
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Llyfrynnau Diweddaraf:

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 15/05/2026
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
blwch ffiws trydanol
You're viewing: Gosod Electrodechnegol £795.00
Add to cart
Shopping cart close