Sgiliau Peirianneg – Parodrwydd am Waith
Sgiliau Peirianneg – Parodrwydd am Waith
Tystysgrif Lefel 2 City & Guilds 2850 mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu
Enillwch sgiliau peirianneg hanfodol ynghyd â thair wythnos o leoliad gwaith lleol i gychwyn gyrfa yn y diwydiant Peirianneg
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r rhaglen hyfforddi hon, sydd wedi’i hariannu’n llawn, yn darparu llwybr cynhwysfawr i yrfaoedd peirianneg.
Bydd dysgwyr yn ennill sgiliau craidd mewn diogelwch, cyfathrebu technegol, cynnal a chadw mecanyddol, gwaith platiau, a thorri thermol Yn ogystal, bydd dysgwyr yn elwa o gymorth llythrennedd a rhifedd os oes angen, ynghyd â hyfforddiant cyflogadwyedd sy’n cwmpasu ysgrifennu CV a thechnegau cyfweliad. Mae’r cwrs hefyd yn cynnwys modiwlau cyn-gyflogaeth ECITB fel CCNSG, trin â llaw, mannau cyfyng, gweithio ar uchder, a defnyddio offer yn ddiogel i baratoi dysgwyr ar gyfer y gweithle. Mae pasbort digidol mewn sgiliau TG a chyfathrebu hefyd wedi’i gynnwys.
Mae’r cwrs yn gorffen gyda thair wythnos o brofiad gwaith gyda chyflogwr lleol i gymhwyso dysgu mewn amgylchedd byd go iawn.
Mae’r cwrs hwn yn rhedeg bum niwrnod yr wythnos, am 16 wythnos, gan ddechrau ym mis Tachwedd 2025.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Un TGAU gradd D neu uwch i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf neu Fathemateg/Rhifedd
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
- Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Amherthnasol
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Yn ystod y rhaglen bydd dysgwyr yn cwblhau’r canlynol:
Tystysgrif Lefel 2 City & Guilds 2850 mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu
Unedau fydd:
- Gweithio mewn peirianneg
- Egwyddorion technoleg peirianneg
- Egwyddorion technoleg gweithgynhyrchu
- Defnyddio technegau gosod mainc
- Weldio trwy broses MIG
Hyfforddiant Llythrennedd a Rhifedd (os oes angen)
Hyfforddiant Sgiliau Cyflogadwyedd (paratoi CV a thechnegau cyfweliad)
Rhaglen Cyn-gyflogaeth ECITB:
- Pasbort Diogelwch Grŵp Diogelwch Cenedlaethol Cleient a Chontract (CCNSG)
- Trin â llaw
- Olwynion llaw a sgraffiniol
- Gweithio mewn lle cyfyngedig risg isel
- Gweithio ar uchder
- Gweithio’n ddiogel gydag offer a chyfarpar llaw a phŵer
3 wythnos o brofiad gwaith gyda chyflogwr lleol
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
- pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg
Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.
Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.
Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk
Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.
Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:
Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd
Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
- Arholiad ar-lein
Beth alla i ei wneud nesaf?
Gall y cwrs hwn arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa o fewn y Diwydiant Peirianneg, neu symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Nid oes angen unrhyw offer ychwanegol
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim costau ychwanegol
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
| Lefel: | |
|---|---|
| Modd: | |
| Duration: | 16 Wythnosau |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
