Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Anatomeg, Ffisioleg a Phatholeg

Anatomeg, Ffisioleg a Phatholeg

Anatomeg, Ffisioleg a Phatholeg

Tystysgrif VTCT (ITEC) Lefel 3 mewn Anatomeg, Ffisioleg a Phatholeg ar gyfer y Therapydd Cyflenwol

Os ydych chi eisiau gweithio o fewn y diwydiant therapïau cyflenwol, mae hyn yn berffaith i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r corff, yn ogystal â strwythur, swyddogaeth a phatholegau’r croen, y gwallt a’r ewinedd.

Mae’r ffioedd fesul blwyddyn academaidd, yn amodol ar newid

£600.00

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Prif nod y cwrs hwn yw galluogi dysgwyr i ennill y wybodaeth greiddiol angenrheidiol a fydd yn rhoi sylfaen gadarn i chi ddilyn gyrfa fel therapydd cyflenwol.

Mae’r cwrs hwn fel arfer yn rhedeg un diwrnod yr wythnos, am 34 wythnos, gan ddechrau ym mis Medi.

 

  • Os o dan 19, Lefel 1 perthnasol neu ddau TGAU gradd D neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf
  • Mae angen sgiliau cyfathrebu a chyflwyniad personol da
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf

Bydd y cymhwyster yn datblygu eich gwybodaeth a dealltwriaeth o’r corff, a strwythur, swyddogaeth a phatholegau’r croen, y gwallt a’r ewinedd.

Byddwch hefyd yn dysgu am strwythur, swyddogaeth a phatholegau systemau’r corff dynol gan gynnwys y system ysgerbydol cyhyrol, nerfol, endocrin, anadlol, cardiofasgwlaidd, treulio, wrinol ac atgenhedlu.

Mae gan y cwrs hwn un uned sy’n cynnwys nifer o fodiwlau:

  • Trefniadaeth y corff dynol
  • Y sgerbwd a’r cymalau
  • Systemau gwaed a lymffatig
  • Cyhyrau a systemau nerfol
  • Systemau endocrin ac atgenhedlu
  • Croen, gwallt ac ewinedd
  • Systemau treulio ac ysgarthu
  • System resbiradol
  • Patholegau cyffredin y systemau hyn
  • Gwybodaeth am batholegau’r systemau hyn

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Portffolio o dystiolaeth

Efallai yr hoffech ystyried un arall o’n cyrsiau rhan-amser.

  • Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

,

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 23/01/2024
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Anatomeg, Ffisioleg a Phatholeg
You're viewing: Anatomeg, Ffisioleg a Phatholeg £600.00
Add to cart
Shopping cart close